Warren Gatland i adael swydd hyfforddwr Cymru yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi dweud y bydd yn gadael ei swydd fel hyfforddwr t卯m rygbi Cymru ar 么l Cwpan y Byd yn Japan yn 2019.
Ers cael ei benodi yn 2007 mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith a fe sydd wedi bod yn y swydd am y cyfnod hiraf.
"Rydw i yma tan 2019 - y cynllun wedyn yw mynd adref am gyfnod," meddai wrth orsaf Radio Sport yn Seland Newydd.
Mae'r 大象传媒 wedi gofyn am ymateb Undeb Rygbi Cymru.
'Digon hir'
Dywedodd yr hyfforddwr: "Pe bawn i'n rhan o rygbi rhanbarthol neu Super Rugby byddai hynny'n gr锚t ond os ddim, efallai bydd rhaid i mi fynd i'r traeth am chwech neu 12 mis, rhoi fy nhraed i fyny a chymryd seibiant.
"Dyna'r cynllun. Dwi wedi bod i ffwrdd am ddigon hir. Dwi'n 52 felly gobeithio bod digon o flynyddoedd o hyfforddi o fy mlaen.
"Ar 么l 2019, yn sicr, y cynllun yw dod yn 么l i Seland Newydd."
Cafodd Gatland ei benodi ar 么l methiant Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2007 dan reolaeth Gareth Jenkins.
Daeth llwyddiant yn fuan iawn wrth i Gymru sicrhau'r Gamp Lawn yn 2008 ac eto bedair blynedd yn ddiweddarach.
Cafodd seibiant o'i waith i arwain y Llewod i fuddugoliaeth dros Awstralia ond nid yw wedi cael yr un llwyddiant gyda Chymru yn erbyn timau hemisffer y de.
Dim ond dwywaith y mae Cymru wedi curo Seland Newydd, Awstralia neu Dde Affrica mewn 30 o gemau pan oedd Gatland yn eu hyfforddi.