大象传媒

Methu stopio cosi

  • Cyhoeddwyd
geraint

Mae'n deimlad anesmwyth ac mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi ei gael o dro i dro. Ond sut fuasech chi'n teimlo 'tase chi yn cosi trwy'r adeg?

Dyna'n union y mae Geraint Iwan, un o gyflwynwyr rhaglen Geth a Ger ar 大象传媒 Radio Cymru, wedi gorfod ei oroesi y rhan fwyaf o'i fywyd gan ei fod wedi dioddef o ecsema yn ddifrifol.

Ond fel y bu'n dweud wrth Cymru Fyw mae o bellach wedi dysgu sut i drin y cyflwr:

"Dydi o ddim yn ffysi"

Mae gen i ecsema ers dwi'n gallu cofio. Wel i ddweud y gwir, ers imi gael fy ngeni. Mae'n un o'r pethau 'na elli di ddim ei wella mewn gwirionedd.

Dwi'n ymddiheuro i unrhywun sydd efo ecsema sydd newydd ddarllan hynna ac yn teimlo'n isel am y peth, ond mae'n wir... er, fel dwi 'di darganfod yn ddiweddar, mae'n rhywbeth y medrith y rhan fwyaf ohonom ei reoli!

Doedd clywed "nei di dyfu allan ohono fo" ddim yn helpu pan ro'n i'n iau, ac fe ddechreuais feddwl "wel, do's 'na ddim byd fedrai neud amdano fo, felly ma rhaid jest dod i arfar efo byw felma". Tan ro'n i yn 27 oedd, fel 'a oedd hi.

Mae gen i ddau math gwahanol o ecsema. Yr ecsema 'hogyn bach' oedd gen i ers talwm yn bennaf, sef yr un sydd yn effeithio ar nifer o blant ifanc tu mewn i'r penelin a thu 么l i'r pengliniau.

Yn hwyrach yn fy mywyd nes i ddatblygu ecsema atopig sydd ddim yn ffysi o gwbwl chwara teg iddo fo, ac yn weddol hapus i setlo lawr rhywle ar fy nghorff.

Ddim yn hawdd

Dwi ddim yn dweud mai ecsema yw'r peth gwaetha fedrwch chi ei gael, oherwydd dydi o ddim. Dwi'n cyfri fy hun yn lwcus iawn nad ydw i 'di cael petha llawer mwy difrifol.

Ond dydi hi ddim 'di bod yn hawdd chwaith. Mae hi'n anodd esbonio yn union sut ma'n teimlo ar brydiau, ond mi na'i drio fy ngora' i wneud.

Am 29 blynedd roedd o'n teimlo fel fy mod yn gwisgo siwmper debyg i un y bobol sy'n dringo, neu'r un sydd yn cael ei gwisgo efo skinny jeans rownd Caerdydd gan bobl sy'n c诺l. Y siwmper 'na sy'n edrych yn gyfforddus ar rhywun arall, ond sy'n boeth ac yn cosi i gyd pan 'da chi'n trio bod yn c诺l a phrynu un i chi'ch hun. Ia, fel yna ma'n teimlo, drwy'r amser.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint Iwan yn ei waith gyda Radio Cymru yn cyfweld 芒 Bryn F么n ym mis Medi eleni

Dwi'm yn meddwl bod na bum munud yn pasio lle doedd 'na ddim o leia un darn o fy nghorff yn cosi. Dwi'n gwbod bod hynna'n swnio fel fy mod yn gor-ddweud, ond mi rydw i'n hollol o ddifri. Gan fy mod wedi bod fel yna erioed, doedd o ddim rili yn fy mhoeni ar 么l sbel.

Oni wedi derbyn yr holl beth erbyn fy arddegau i ddweud y gwir, a ddim yn sylwi 'mod yn crafu o hyd. O'dd o fwy fel twitch - rhywbeth oni'n ei wneud heb sylwi.

Gwaedu

Roedd y croen ei hun yn amlwg yn ddrwg iawn drwy'r amser hefyd. Unai ro'n i'n gwaedu neu o'dd o'n edrych yn s么r. Eto, do'n i ddim rili yn sylwi fy hun rhan amlaf, ond dwi 'di bod yn ymwybodol iawn erioed bod pawb arall yn sylwi arno fo.

Erbyn fy mod i'n 27 roedd yr holl beth ar ei waethaf. Roedd o wedi tyfu i fod yn beth llawer mwy na chrafu erbyn hynny.

Mi roedd y croen rownd fy ngwddw yn mynd mor boeth a s么r, tan o'dd hi'n amhosib imi droi fy mhen i'r ochr. Mi roedd hi'n hawdd dweud wrth pobl na stiff-neck o'dd hwnw, ond doedd hi ddim yn hawdd esbonio pa mor ffyrnig oedd y cochni ar hyd fy wyneb, fy mreichia' a fy nghefn.

Yr unig ffordd i esbonio fo dwi'n meddwl ydi os fysach yn rhoi tywel, neu gadach mewn d诺r berwedig, ac yna ei lapio rownd eich gwddw am chydig ddyddiau. Dwi'n siwr ei fod o'n swnio'n hyfryd, ond doedd o ddim yn anffodus.

Roedd mam wedi dweud ers blynyddoedd mai rhywbeth yr oeddwn yn ei fwyta oedd yn achosi hyn, ond roedd dwsinau o arbenigwyr croen a doctoriaid gwahanol wedi chwerthin ar y syniad ac yn cario 'mlaen i roi cr卯ms gwahanol i mi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y broses ddyddiol a phoenus o orfod rhoi eli ar yr ecsema

(Ar nodyn bach ychwanegol.... os yw eich plentyn yn cael cr卯m i'w roi ar eu croen efo steroid ynddo, yna mynnwch bo' nhw'n golchi eu dwylo wedyn!! Yn anffodus, ar 么l 20 mlynedd o roi cr卯ms steroid ar fy nghroen a ddim yn golchi fy nwylo wedyn mae'n golygu bod y croen ar flaenau fy mysedd wedi teneuo. Felly 'dwi ddim yn gallu gafa'l mewn dim byd poethach na darn o dost am fwy na 'chydig eiliadau am weddill fy mywyd!)

Newid deiet

Mi wnes i benderfynu trio newid fy neiet. O'n i wedi clywed bod nifer fechan iawn o bobl yn y byd efo alergedd at bethau fel reis, cig oen a garlleg. Felly mi wnes i benderfynu bwyta reis, cig oen a garlleg yn unig am bythefnos. Do, mi wnaeth hyn fi'n s芒l.

Mae byw ar ddeiet o KFC a Coke am 27 mlynedd, ac yna newid i fyw ar ffrwythau, llysiau a chig oen oer yn gallu gwneud rhywun yn s芒l. Ond yn anhygoel, ar 么l wythnos roedd fy nghroen yn hollol glir! Hollol, hollol glir, am y tro cyntaf erioed.

Ers hynny, mae fy mywyd wedi newid. Fe ddechreuais fynd i weld doctoriaid gwahanol, i gael profion a chyngor gwahanol. Dwi wedi darganfod 'mod i efo alergedd i rywbeth o'r enw 'Balsam of Peru', sydd yn cael ei ddefnyddio ym MHOB DIM - a dwi'n golygu bob dim... chwiliwch amdano ar y we os 'da chi ddim yn fy nghoelio i!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae olew Balsam Periw yn bron popeth mae Geraint yn fwynhau ei fwyta

Mae'n cael ei ddefnyddio mewn bwydydd, diodydd, past dannadd ac aroglyddion a pethau eraill. Dwi hefyd wedi darganfod bod alergedd gennyf i rywbeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y broses o greu bwydydd gyda gwenith. So fydd 'na ddim mwy o sausage rolls, bara na batter... y pethau neisia mewn bywyd.

Arbrofi

Dydi hi ddim wedi bod yn hawdd. Dydi bod yn dew a thrio peidio bwyta sosej r么ls byth yn hawdd. Ond wrth newid ac arbrofi efo fy neiet mi fedrai ddweud fy mod yn eistedd yn fama yn ysgrifennu hwn a does y run rhan o fy nghorff yn cosi. Dwi 'di llwyddo i fod fel hyn ers bron i flwyddyn erbyn hyn.

Os ydych chi'n darllen hwn ac efo ecsema eich hun, neu gyda phlentyn, ffrind neu aelod o'r teulu sydd efo ecsema, pl卯s peidiwch a dweud wrthyn nhw y bydd popeth yn iawn ac y bydd o'n clirio.

Fel o'n i'n dweud ar y dechrau, does 'na ddim ffordd o'i wella, ond yn bendant mae 'na lawer o ffyrdd i'w drin. Dim ond i chi barhau i arbrofi. Does ganddoch chi ddim syniad faint dwi'n difaru peidio gwrando ar Mam ac arbrofi ynghynt.

(O.N. Mae moisturiser yn wych! Hyd yn oed os oes ganddoch chi ecsema neu beidio, 'swn i'n annog chi i'w ddefnyddio yn ddyddiol. Dwi'n ddyn 30 oed ac ma' gen i ddwylo fatha rhyw Disney Princess. Dwi'n eitha balch ohonyn nhw.)

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sosej R么ls: un o'r bwydydd blasus mae Geraint yn gorfod byw hebddo