大象传媒

"Nid yn enw Islam"

  • Cyhoeddwyd
ffrainc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn undod: Mae lliwiau Ffrainc i'w gweld ar adeiladau ar hyd a lle Cymru gan gynnwys Caerffili

Mae'r ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd wedi ysgwyd y byd. Yma yng Nghymru mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd deall beth sydd wedi digwydd. Mae 'na le i gredu mai'r mudiad sy'n cael ei adnabod fel Islamic State sy'n gyfrifol.

Mewn erthygl i Cymru Fyw mae Abdul-Azim Ahmed, arbenigwr ar grefyddau'r Dwyrain ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhoi ymateb Mwslemiaid Cymru i'r hyn ddigwyddodd. Mae'n pwysleisio bod byd o wahaniaeth rhwng amcanion IS a chrefydd Islam:

"Gofid a thristwch"

Mae'r ymosodiadau ym Mharis yn sarhad ar ddynoliaeth. Does dim amheuaeth mai dim ond person creulon a dideimlad allai gyflawni llofruddiaethau mor erchyll.

Ymhlith Mwslemiaid Cymru, does dim ond gofid a thristwch. Yn gyntaf, fel pawb arall, mae yna sioc ar 么l yr hyn ddigwyddodd nos Wener.

Mae yna, fodd bynnag, dorcalon ychwanegol wedi deall mai Mwslemiaid oedd y rhai wnaeth weithredu.

Ry'n ni yn disgwyl i'r awdurdodau gadarnhau yn ffurfiol pwy oedd yn gyfrifol, ond mae yna le i gredu bod yr hyn sy'n cael ei alw yn Islamic State yn chwarae rhan ganolog yn yr ymosodiadau.

Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu bod IS yn talu'r pwyth yn 么l i Ffrainc oherwydd r么l y wlad yn y bomio yn Syria.

Does gan fwyafrif helaeth o Fwslemiaid ddim cydymdeimlad o gwbl gyda dyheadau gwleidyddol Islamic State na'u hymgyrchu treisgar. Dwi'n dyfynnu Saleem Kidawi, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru:

"...rydym yn barnu Islamic State wrth eu gweithredoedd, nid wrth eu geiriau, a dyn nhw ddim yn gwneud unrhywbeth sydd yn Islamaidd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawer yn ei chael hi'n anodd dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd ym Mharis ar 13 Tachwedd

Mwslemiaid yn dargedau

Cwestiwn cyffredin sydd wedi ei ofyn i mi yn ystod y dyddiau diwethaf yw hwn: Ydy Mwslemiaid wedi gwneud digon i gondemnio Islamic State a'u heithafiaeth dreisgar?

Mae'r rhai sy'n gofyn y cwestiwn hwn yn anghofio bod Mwslemiaid eu hunain wedi bod yn dargedau i IS yn ddiweddar mewn llefydd fel Beirut.

Maen nhw yn anghofio hefyd bod Mwslemiaid yn Syria ac mewn rhannau eraill o'r byd ar flaen y g芒d yn y frwydr yn erbyn Islamic State. Yn nes gartre, ac yma yn y Deyrnas Unedig, mae nifer helaeth o fudiadau Mwslemaidd a'u harweinwyr wedi condemnio eu gweithredoedd gwaedlyd.

Dyw hi ddim yn gyfrinach mai rhan o strategaeth Islamic State yw polareiddio cymdeithas a chreu rhaniadau rhwng Mwslemiaid a'u cymdogion sy'n arddel ffydd a chrefyddau gwahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Abdul-Azim Ahmed

Cymru'n unedig

Er hynny rwy'n hyderus na fydd hynny yn digwydd yma yng Nghymru. Mae cryfder y gymuned a'r undod sydd yna rhwng pobl aml-grefydd ac aml-ieithog Cymru yn aruthrol.

Ond rwy'n gwybod, i nifer o Fwslemiaid, maen nhw'n poeni bydd eraill yn ymateb, ac yn cael eu hystyried yn euog oherwydd y bydd rhai yn eu cysylltu gyda'r Mwslemiaid oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd ym Mharis.

Yn y pendraw, rwy'n credu y bydd pawb yng Nghymru, beth bynnag fo'u cefndir, yn unedig yn eu cydymdeimlad gyda theuluoedd a ffrindiau'r dwsinau o bobl gollodd eu bywydau ym Mharis. Mae adnod o'r Quran yn dod i'r cof: "Mae pwy bynnag sy'n cymryd bywyd, yn gwneud hynny fel pe bai yn cymryd bywyd dynolryw" (5.32).

Mae sawl Imam wedi egluro arwyddoc谩d yr adnod trwy ddweud does neb i lenwi'r bwlch i'r teuluoedd a ffrindiau sydd mewn galar. Dyw hi ddim yn bosib, er enghraifft, i unrhywun arall yn y byd wella mam o'i galar ar 么l colli mab. Mae ei bywyd wedi cael ei chwalu.

Mae ein gwedd茂au gyda theuluoedd a ffrindau y dioddefwyr ar yr adeg anodd yma.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y 'Tricolore' ar hanner mast ar do'r Mus茅e d'Orsay ym Mharis

Hefyd gan y 大象传媒