Paris: Ymddiheuro am sylw ar Facebook

Ffynhonnell y llun, Facebook

Mae aelod o staff Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi ymddiheuro wedi iddo wneud sylw am araith Enoch Powell wedi'r ymosodiadau ym Mharis.

Fe ddywedodd Daniel Mason, sy'n gweithio i William Graham, nad oedd o wedi deall ystyr yr araith yn llawn.

Fe gafodd Mr Powell ei ddiswyddo o'i r么l fel llefarydd y blaid Geidwadol ar amddiffyn wedi ei araith yn beirniadu lefel mewnfudo yn 1968.

Mewn sylw ar Facebook, fe ofynnodd Mr Mason oedd Mr Powell yn ddyn "hiliol, gwallgof" neu'n ddyn "芒 gweledigaeth". Fe gafodd y sylw ei ddileu.

Yn AS Ceidwadol yn sedd Wolverhampton South West, fe fynegodd Mr Powell ei bryder am fewnfudo, gan honni y gallai teuluoedd "Prydeinig" fod dan anfantais o ran cartrefi, ac y gallai hynny achosi tensiwn hiliol.

Yn ystod araith yn Birmingham, fe ddyfynodd gerdd Virgil Aeneid, gan gyfeirio at "afon yn ewynnu 芒 gwaed".

Cafodd Mr Powell ei ddiswyddo o fainc flaen arweinydd y blaid Geidwadol, Edward Heath. Dywedodd Mr Heath wrth y 大象传媒: "Ro'n i'n credu fod ei araith yn ymfflamychol, gyda'r gallu i wneud niwed i faterion yn ymwneud 芒 hil."

Wedi hyn, fe ddywedodd Mr Powell ei fod wedi derbyn oddeutu 100,000 o lythyrau gan bobl yn cefnogi ei sylwadau.

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Enoch Powell ei feirniadu wedi ei araith yn 1968

Wedi i Daniel Mason wneud y sylw ar Facebook, fe ymddiheurodd, gan ddweud:

"Dyw anwybodaeth ddim yn esgus, ond petawn i wedi deall ystyr yr araith yn llawn, fydden i heb ei rhannu hi."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran William Graham: "Mae'r sylw camarweiniol, siomedig a hynod amharchus hwn yn annerbyniol ac yn gwbl groes i farn unrhyw berson synhwyrol.

"Yn amlwg, mae hwn yn fater i William fel cyflogwr, a bydd yn cymryd y camau addas."