大象传媒

Camddefnyddio alcohol yn un o brif achosion digartrefedd

  • Cyhoeddwyd
AlcoholFfynhonnell y llun, PA

Camddefnyddio alcohol yw un o brif achosion digartrefedd yng Nghymru, yn 么l arolwg.

Dangosodd ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod dros hanner yr unigolion sydd heb gartref yn yfed alcohol ar lefelau peryglus a niweidiol.

Daeth yr arolwg hefyd i'r casgliad bod rhwng 30% a 40% o bobl yn ddigartref gan eu bod yn camddefnyddio alcohol.

Maen nhw'n amcangyfrif bod camddefnydd alcohol a chyffuriau yn gyfrifol am ychydig dros un rhan o dair o holl farwolaethau'r digartref.

Ond o'r boblogaeth gyffredinol, mae'r nifer sy'n marw o alcohol wedi lleihau ers 2010, meddai Llywodraeth Cymru.

Lansio cynllun

Daw'r casgliadau wrth i'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, lansio cynllun newydd yn Dyfrig House, Caerdydd.

Y nod yw cynnig gwasanaeth arbenigol i bobl ddigartref sy'n delio 芒 phroblemau cyffuriau ac alcohol.

Mae'r adeilad yn darparu llety arbenigol i 21 o unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref - yr unig ddarpariaeth 'sych' o'i fath yn y brifddinas.

Dywedodd Mr Gething: "Fel llywodraeth, rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal a lliniaru digartrefedd, gan gymryd camau pendant i atal digartrefedd yn y lle cyntaf, a chefnogi'r rheini sy'n ddigartref o ganlyniad i broblemau cyffuriau neu alcohol i newid eu bywydau er gwell."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud iddi fuddsoddi bron i 拢50 miliwn i fynd i'r afael 芒 cham-drin cyffuriau ac alcohol eleni.

Mae hi hefyd yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno isafswm ar bris pob uned o alcohol.