大象传媒

Cyn-reolwyr Swyddfa'r Post i gymryd y cwmni i'r llys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Si么n Tecwyn aeth i holi Noel Thomas ar ran Newyddion 9

Mae degau o gyn-reolwyr Swyddfeydd Post wedi dod at ei gilydd i fynd a'r cwmni i'r llys.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi eu cyhuddo o dwyll ar gam, a bod Swyddfa'r Post yn gwrthod gwrando.

Yn 么l nifer o gyn-bostfeistri, gan gynnwys rhai gafodd eu carcharu, nam cyfrifiadurol oedd yn gyfrifol am ddangos fod degau o filoedd o bunnoedd wedi diflannu.

Mae Swyddfa'r Post yn gwrthod y ddadl yma.

Noel Thomas

Roedd Noel Thomas yn mwynhau ei waith fel is-bostfeistr y Gaerwen ar Ynys M么n. Roedd yn gynghorydd sir ac yn ddyn uchel ei barch yn y gymuned.

Ond yna yn 2005 newidiodd popeth wrth iddo gael ei gyhuddo o dwyll, a'i garcharu.

Mae Mr Thomas a degau o is-bostfeistri eraill yn dweud na wnaethon nhw unrhyw beth o'i le a bod arian wedi diflannu oherwydd gwall yn Horizon, system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post.

Maen nhw'n dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis bellach ond cymryd achos llys sifil yn erbyn Swyddfa'r Post.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Horizon - system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - sydd ar fai yn 么l Mr Thomas

Awgrymodd rhaglen deledu Panorama'n gynharach eleni bod dogfen yn bodoli oedd yn awgrymu nad oedd y Swyddfa Bost yn meddwl bod Mr Thomas wedi dwyn arian.

Mae'n gobeithio y bydd achos llys yn golygu bod y ddogfen yna'n cael ei gwneud yn gyhoeddus.

Honiadau pellach

Mae cylchgrawn Computer Weekly hefyd wedi honni yr wythnos yma bod trafferthion yn dal i fodoli o fewn system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post.

Maen nhw wedi gweld dogfen sy'n awgrymu bod problemau'n gallu codi os bydd defnyddiwr yn ceisio diffodd y system heb gwblhau rhai prosesau.

Mae'r ddogfen yn honni bod Swyddfa'r Post yn gobeithio cywiro'r nam yn fuan y flwyddyn nesaf.

Er bod Aelodau Seneddol o sawl plaid wedi mynegi pryderon, dywedodd Swyddfa'r Post nad oedden nhw wedi cael gwybod am unrhyw gamau cyfreithiol.

Wrth ymateb i honiadau Computer Weekly, dywedodd llefarydd fod ganddyn nhw brosesau trwyadl i adnabod unrhyw broblemau a'u bod nhw'n cynnig cefnogaeth lawn i is-bostfeistri oedd angen cymorth.

Doedd tair blynedd o ymchwilio ddim wedi dangos unrhyw wall cyfrifiadurol oedd wedi arwain at is-bostfeistr yn cael cam.