大象传媒

Ateb y Galw: Mari Gwilym

  • Cyhoeddwyd
Mari Gwilym

Mari Gwilym sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan yr actores Eiry Thomas yr wythnos diwethaf.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Cnoi ysgwydd Mam a gollwng glafoerion wrth hel dannadd!

Pwy oeddet ti'n ei ffans卯o pan yn iau?

Jo Bach (dwi'n dal yn ei ffans卯o fo!)

Beth oedd y digwyddiad gododd fwy'a o gywilydd arnat ti erioed?

Pi-pi ar Moel Siabod, a'r fyddin, oedd yn ymarfer yno yn ddiarwybod i mi, yn mynd heibio ac yn fy nghymeradwyo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd angen dropyn o wisgi ar Mari ar 么l y digwyddiad anffodus ar Foel Siabod!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan welais eitem newyddion yn ddiweddar am ddyn oedd wedi llosgi'n ddifrifol yn cael trawsblaniad gwyneb newydd.

Oes gen ti arferion drwg?

Gormod i'w rhestru!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Aber yr Afon Llyfni. Dyna fy nghynefin. Mae'r ardal yn hynafol iawn - llawn bywyd gwyllt a ll锚n-gwerin, a hen, hen ffrindia' a chydnabod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Un o'r rhei'ny oedd honno yn Theatr y Sherman, Caerdydd hefo ffrindiau o'r Gogledd a'r De ar fy mhenblwydd yn 41, yn dathlu perfformio'r noson olaf o'r 'Claf Diglefyd' gan Moli茅r猫 pan chwaraeais ran y forwyn, 'Toinette.

Disgrifia dy hun mewn tri gair:

Byr, boliog, blewog... (Ta ng诺r i ydy hwnnw, d'wch?!)

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mari (canol ar y dde) yn dod wyneb yn wyneb gyda tipyn o dderyn ym mhantomeim 'Mwstwr yn y Clwstwr'

Beth yw dy hoff lyfr?

Gormod o ddewis, ond newydd fwynhau 'Y Bwthyn' gan Caryl Lewis.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Nicar.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist ti?

'Kind Hearts and Coronets'.

Mewn ffilm o dy fywyd, pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Oes 'na actores o Gymraes 'run si芒p a'r un llais 芒 fi'n bodoli?!

Dy hoff albwm?

Llawer. Methu penderfynu.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: spare-ribs sdici, hollol afiach... Iym!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun tal, tlws a cherddorol... Elin Fflur a'i choesa' hir ella?

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Phyl Harries

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ww... be' ddudis i wrth y bobol Cymru Fyw 'na d'wch?"