Blwyddyn newydd, dechrau newydd
- Cyhoeddwyd
Stopio smygu, yfed llai, rhagor o ymarfer corff... mae'n siwr bod nifer ohonoch chi wedi addo troi tudalen newydd ar ddechrau 2016. Falle bod rhai ohonoch chi wedi torri'ch addunedau blwyddyn newydd yn barod!
Os ydi'r ewyllys yn dal ganddoch chi, mae arbenigwyr Cymru Fyw yma i helpu:
Gwella Ffitrwydd
, hyfforddwr personol yn ardal Caerdydd:
Gosod sialens: Gallu rhedeg 5k, bod yn gyfforddus yn eich trowsus gorau neu fedru gwneud 20 press-up, penderfynwch beth yw eich g么l a beth yw'r camau i'w cyrraedd. Bob tro 'dych chi'n cyrraedd eich targed, rhowch wobr i chi'ch hun a gosodwch darged newydd!
Gofyn am gyngor: Os 'dych chi ddim yn siwr sut mae dechrau, ewch i'ch gampfa leol a gofyn am gyngor gan hyfforddwr personol i gynllunio rhaglen ffitrwydd.
Cofnodi mesuriadau: Anghofiwch am y glorian - mae cyhyr yn pwyso mwy na braster. Os dych chi'n awyddus i golli pwysa' - defnyddiwch d芒p mesur. Cofnodwch fesuriadau eich canol,cluniau, breichiau a choesau bob wythnos.
Creu amserlen: Mae creu amserlen ymarfer a chynllun bwyd yn elfen bwysig. Ar 么l llunio amserlen, nodwch yr amseroedd yn eich dyddiadur a glynnwch ati hi!
Byddwch yn actif: Gwnewch newidiadau bach ac mi fyddwch yn teimlo yn well. Defnyddiwch y grisiau bob tro, ewch am dro bach yn eich egwyl ginio, defnyddiwch feic yn lle car weithiau. Mae bod yn actif drwy'r dydd yn gwthio eich corff i losgi mwy o fraster.
Codwch bwysau ferched!: Mae'n anodd iawn i ferch edrych fel Arnold Schwarzenegger felly peidiwch 芒 phoeni am hynny! Mae codi pwysau yn codi eich cyfradd fetabolig ac yn helpu i losgi braster. Codwch bwysau uchel (yn saff) a chadwch at nifer isel o 'reps'.
Amynedd: Yn lle trio colli st么n mewn wythnos gwnewch newidiadau bach. Os ydy eich rhaglen ffitrwydd a chynllun bwyta yn rhai realistig 'dych chi'n debyg o fedru cadw atyn nhw yn y tymor hir. Os 'dych chi'n meddwl gwneud rhywbeth fel diet milk-shake rhaid gofyn i'ch hunain - fedra i wneud yr un diet am weddill fy oes i gadw'r pwysau i ffwrdd?
Ffrind ffitrwydd: Mae cychwyn a chadw at raglen ffitrwydd newydd yn llawer haws gyda ffrind! Beth am goginio prydau iach i'ch gilydd? Rydych yn llai tebygol o fethu sesiwn ffitrwydd os ydych yn mynd gyda rhywun arall.
Peidiwch 芒 rhoi'r gorau iddi!: Mae'n beth cyffredin i gael dyddiau gwael, cofiwch nad ydi un diwrnod drwg yn mynd i ddadwneud eich gwaith caled i gyd! Os 'dych chi wedi methu sesiwn ffitrwydd neu wedi bwyta yn wael, peidiwch 芒 gwneud i'ch hun deimlo yn euog - ewch yn 么l amdani'r diwrnod wedyn.
Bwyta'n iach
Y dietegydd Sioned Quirke:
Y peth cyntaf i wneud cyn penderfynu newid diet yw meddwl os yw'r newidiadau yn rywbeth y gallen ei gynnal yn barhaol. Does dim angen bod yn hynod o ddrastig wrth wella ein diet.
Mae dechrau drwy wneud newidiadau bach, fel bwyta 'chydig bach mwy o ffrwythau neu lysiau'r dydd, yn ddechrau gwych.
Wedyn, wedi i chi arfer gyda'r newid yna, mae'n bosib symud ymlaen i rhywbeth arall fel lleihau ein porshiwn neu dorri lawr ar fwydydd sydd wedi ei brosesu.
Yfed llai o alcohol
Andrew Misell, Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru:
Wedi sbloets fawr y Nadolig, mae llawer o bobl yn dewis rhoi seibiant bach i'w cyrff trwy beidio 芒 diota yn ystod mis cynta'r flwyddyn newydd. Dyna pam mae Alcohol Concern yn cynnal yr . Nid perswadio pobl i roi'r gorau i alcohol unwaith ac am byth yw'r nod - dim ond rhoi ennyd i feddwl, a chyfle, efallai, i newid ein harferion.
Ac os nad ydych chi am fod yn hollol sych, mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud er mwyn yfed llai trwy'r flwyddyn:
Ymlaciwch: dewiswch ddiod rydych chi wir yn hoffi ei flas, a mwynhewch yn araf deg
Cymerwch ddiwrnod neu ddau heb alcohol bob wythnos
Rhowch gynnig ar ddiodydd di-alcohol - mae nifer o'r siopau bellach yn gwerthu diodydd ysgafn, sydd ddim yn rhy felys, at ddant oedolion
A pheidiwch 芒 gadael i neb bwyso arnoch chi i yfed
Stopio 'Smygu
Emily Cole, Ash Cymru, y sefydliad sy'n gweithio dros Gymru ddi-fwg.
Dydi rhoi'r gorau i 'smygu ddim yn hawdd, ond mae'n gwneud adduned blwyddyn newydd heriol. Mae yna gamau ymarferol i chi ei gymryd er mwyn dechrau eich llwybr:
Gwnewch restr o'r rhesymau pam ydych eisiau stopio 'smygu a chadwch hi'n agos i chi er mwyn eich helpu drwy amseroedd anodd.
Mae'n bwysig eich bod yn gwobrwyo eich hunan - rhywbeth fydd yn braf i chi wneud gyda'r arian 'dych chi'n arbed.
Cadwch eich hunan yn brysur i osgoi yr ysfa - amser ar gyfer diddordebau newydd efallai?
Mae'n gallu cymryd hyd at saith ymgais i stopio 'smygu felly mae'n rhaid aros yn bositif.
Ond yn bwysicach na dim, cofiwch nad ydych ar ben eich hun. Gallwch gael mwy o gyngor a chymorth ar , sydd yn gymuned ar-lein newydd yng Nghymru ar gyfer pobl sydd eisiau stopio 'smygu.
Mae hefyd a gan y mudiad.
Arbed Arian
Gareth Lewis, Ymgynghorydd Ariannol gyda Dugdale Taylor & Co yng Nghaerdydd:
Mae mis Ionawr yn amser da i edrych ar eich cyfrif banc a gwneud archwiliad ariannol. Gwnewch restr o ble mae eich arian yn mynd pob mis. Gallwch arbed arian trwy newid taliadau misol:
Yswriant T欧
Yswiriant Car
Biliau Trydan a Nwy
Ff么n Symudol
Mae llawer o gwmn茂au yn rhoi taliadau isel yn y flwyddyn gyntaf, felly newidiwch gwmni bob blwyddyn!
Os oes gennych forgais, dydy'r cyfraddau llog erioed wedi bod mor isel. Mae'n bosib gael cyfradd sefydlog isel iawn hyd at bum mlynedd. Gofynnwch am gyngor gan ymgynghorydd ariannol.
Coffi - cyfrwch faint o weithiau chi'n mynd am goffi a lluoswch gyda 拢2, cewch sioc! Prynwch fflasg!
Pob hwyl i chi i gyd ar gyrraedd eich targedau personol. Rhowch wybod i ni sut hwyl 'dych chi yn ei gael.