Cyngor Llyfrau Cymru: Effeithiau torri cyllideb
- Cyhoeddwyd
Bydd toriad o bron 11% yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru y flwyddyn nesa o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y mudiad y byddai llai o lyfrau'n cael eu cyhoeddi ac y byddai llai'n cael ei wneud i annog pobl i ddarllen.
Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad.
Dywedodd y llywodraeth fod eu cyllideb wedi ei thorri'n sylweddol ers 2010 ac y byddai mwy o doriadau mewn termau real wedi adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau: "Mae'r Cyngor Llyfrau wedi derbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau toriad o 10.6% yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. I roi hyn yn ei gyd-destun, y mae'n doriad o 拢374,000 mewn cyllideb o 拢3,526,000.
'Heriol'
"Y mae'r gostyngiad hwn yn un sylweddol iawn i'r diwydiant cyhoeddi ac fe fydd yn gyfnod hynod heriol wrth i'r mudiad geisio cynnal a chefnogi'r fasnach lyfrau yn y ddwy iaith.
"Oherwydd maint y toriad fe fydd angen gosod blaenoriaethau ar gyfer y grantiau cyhoeddi i'r cyhoeddwyr gan sylweddoli na fydd modd cynnal yr ystod o gynnyrch a'r gweithgareddau hyrwyddo amrywiol y mae'r darllenwyr wedi dod i'w disgwyl a'u mwynhau dros y blynyddoedd diwethaf.
"Bydd y mudiad yn parhau 芒'r gwaith o ganfod nawdd ychwanegol megis y cais arian Loteri sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer cynllun hyrwyddo darllen yn Abertawe."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Oherwydd cyfyngiadau ariannol roedd rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn gwarchod gwasanaethau craidd.
'Effeithlonrwydd'
"Rydym yn trafod arbedion effeithlonrwydd gyda'r Cyngor Llyfrau ac yn blaenoriaethu eu rhaglenni grant er mwyn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi."
Dywedodd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru: "Mae'r diwydiant llyfrau eisoes wedi dioddef toriadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn credu y bydd yr argymhelliad yma yn gwneud difrod tymor hir i'r diwydiant, gan beryglu cynnyrch, cyflogaeth a sgiliau.
"Gallai toriad mor sylweddol 芒 hyn fod 芒 goblygiadau pellgyrhaeddol i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i ffyniant a datblygiad yr iaith."
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r Gweinidog Economi wedi cytuno ariannu fel bod modd i'r Cyngor Llyfrau wella eu pencadlys a'u canolfan ddosbarthu ac uwchraddio eu systemau TG."