Dechrau cwympo 20,000 o goed yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i gwympo hyd at 20,000 o goed yng Ngheredigion er mwyn atal clefyd sydd wedi eu heintio wedi dechrau.
Nod y cynllun ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth yw arafu clefyd o'r enw Phytophthora ramorum sydd wedi lledu i goed llarwydd yr ardal.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai'r ganolfan ymwelwyr ar y safle yn parhau ar agor.
Eisoes maen nhw wedi ailblannu tua 12,000 o goed ar 么l i filoedd o goed gael eu cwympo yn 2013.
Mae'r clefyd wedi effeithio ar fwy na 6,700,000 o goed yng Nghymru ers 2010.