Argymell ailagor Pantycelyn cyn gynted 芒 phosib
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad i ddyfodol Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi argymell y dylid ailagor y neuadd breswyl cyn gynted 芒 phosib.
bod "llety Cymraeg Prifysgol Aberystwyth, a Neuadd Pantycelyn yn benodol, yn ddylanwad sylweddol ar benderfyniad myfyrwyr wrth benderfynu ar eu dewis Prifysgol".
Mae'r cwmni a fu'n ymchwilio i ganfyddiadau'n ymwneud 芒 llety a gofod cymdeithasol Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Old Bell 3, wedi cyflwyno ei adroddiad annibynnol terfynol i'r Brifysgol.
Fe gafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn Hydref 2015 gan Fwrdd Prosiect Pantycelyn, sy'n cydlynu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol dynodedig Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gobaith yr astudiaeth oedd edrych ar anghenion myfyrwyr Cymraeg o ran llety a gofod cymdeithasol am y 40 mlynedd nesaf, a dangos sut y gellid cyfoethogi profiad myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys holiadur ar-lein, cyfres o gyfweliadau unigol, grwpiau ffocws gyda myfyrwyr a staff y Brifysgol ac mewn ysgolion uwchradd a choleg addysg bellach.
600 wedi cyfrannu
Cyfrannodd dros 600 o unigolion i'r gwaith maes a gynhaliwyd yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2015.
Mae Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, Gwerfyl Pierce Jones, wedi croesawu'r adroddiad. Dywedodd fod nifer ac ystod yr ymatebion wedi bod yn "galonogol iawn".
Ychwanegodd: "Mae'r adroddiad annibynnol hwn yn cynnig nifer o argymhellion gwerthfawr ac rwy'n falch fod y Bwrdd Prosiect wedi'u cymeradwyo fel rhai addas i'w cyflwyno i'r penseiri er mwyn cael y cyngor priodol yngl欧n 芒 sut y gellid cyflawni'r argymhellion yn adeilad Pantycelyn. Tasg y Bwrdd wedyn fydd cyflwyno briff dylunio terfynol i Gyngor y Brifysgol yn yr haf."
Bydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn awr yn datblygu briff dylunio gan dynnu ar argymhellion yr adroddiad.