Parc ynni a bwyd: '1,700 o swyddi'
- Cyhoeddwyd
Gallai cynllun 拢1 biliwn i ddatblygu parc ynni a bwyd ar Ynys M么n greu 1,700 o swyddi, fyddai'n cynnwys 500 o swyddi parhaol, yn 么l y cwmni sy'n gyfrifol am y fenter.
Bydd y parc yn cael ei adeiladu ar hen safle Alwminiwm M么n ger Caergybi, ar 么l i gwmni Orthios brynu'r safle.
Yn 么l Orthios, bydd y datblygiad yn creu 500 o swyddi parhaol a 1,200 o swyddi adeiladu erbyn 2018.
Bydd y safle yn prosesu gwastraff er mwyn creu ynni, ac yna bydd y gwres sy'n cael ei greu o'r broses yn cael ei ddefnyddio i ffermio cregynbysgod a thyfu llysiau.
'Hwb angenrheidiol'
Y gred yw y bydd y safle yn cynhyrchu 299MW o drydan, sy'n ddigon i gyflenwi 300,000 o gartrefi.
Dywedodd AS Ynys M么n, Albert Owen, bod gan y parc y potensial i "fod yn gatalydd i roi hwb angenrheidiol i'r economi leol".
"Mae'r cwmni yn bwriadu cyfarfod gyda busnesau, hyfforddwyr ac ysgolion yn yr ardal - a bydd y buddion i'w gweld yn yr economi leol ac yn y rhanbarth yn ogystal 芒 rhoi cyfleoedd am swyddi."
Mae'r parc yn un o ddau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer Cymru, a'r bwriad yw y bydd ail barc yn cael ei sefydlu ym Mhort Talbot.
Yna, bydd y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio yn China a gwledydd sy'n datblygu.
Bydd y parc yn defnyddio'r gwres sy'n wastraff wrth gynhyrchu trydan er mwyn cynhesu d诺r fydd yn cael ei ddefnyddio i ffermio corgimychiaid..
Yna bydd gwastraff y cregynbysgod yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith i dyfu cnydau.
Dywedodd pennaeth gweithredol Orthios, Lewis LeVasseur, bod safleoedd o'r fath yn rho cyfle mawr i wledydd sy'n datlybu i "ddatrys problemau cynhyrchu bwyd ac ynni."
Ychwanegodd: "Yr effaith ar yr ynys fydd yr holl sgiliau gwahanol fydd eu hangen i redeg a rheoli'r parc eco."
Fe wnaeth safle Alwminiwm M么n gau yn 2009 gan wneud 400 yn ddiwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2016