大象传媒

Ystyried gwerthu stiwdios Pinewood yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
bond
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pinewood sy'n gyfrifol am ffilmiau Bond

Mae'r stiwdios ffilm sy'n gyfrifol am ffilmiau James Bond yn ystyried gwerthu rhannau o'r cwmni, gan gynnwys eu stiwdios yng Nghymru.

Mae Pinewood Group Plc wedi penodi'r banc buddsoddi, Rothschild, i gynnal adolygiad strategol mawr o'i strwythur a'i asedau.

Mae'r gwaith ffilmio ar gyfer drama wreiddiol gyntaf Amazon Prime yn y DU, The Collection, yn dechrau ar y safle yng Nghaerdydd yn fuan.

Dywedodd Pinewood mai un o nifer o opsiynau sy'n cael eu hystyried ydi gwerthu.

Mae'r adolygiad yn rhan o ymdrechion Pinewood i gael ei restru fel un o gwmn茂au mwyaf adnabyddus y DU ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, er mwyn denu mwy o sylw gan fuddsoddwyr posibl.

Dywedodd Andrew Smith, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Pinewood: "Rydym wedi cychwyn adolygiad strategol, oherwydd dim ond tri cyfranddalwr sy'n berchen ar tua 80% o'r cwmni, ac er mwyn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yma, mae angen i ni ryddhau mwy o gyllid fel y gallwn farchnata ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stiwdio Pinewood Cymru yng Ngwynll诺g

Mae canolfan Pinewood Studios yng Nghymru, wedi'i lleoli yn hen adeilad y ganolfan ynni yng Ngwynll诺g.

Dywedodd Ivan Dunleavy, prif weithredwr Pinewood Group Plc: "Rydym yn credu fod gan Pinewood y potensial i adeiladu ar berfformiad cryf y blynyddoedd diwethaf, er mwyn tyfu ymhellach yn y DU ac yn rhyngwladol."