Ymddiriedolaeth y 大象传媒: Dim llais o Gymru?

Mae pwyllgor dylanwadol o Aelodau Seneddol wedi argymell cael gwared 芒'r gynrychiolaeth Gymreig o Fwrdd Ymddiriedolwyr y 大象传媒.

Mae adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i adolygiad siarter y 大象传媒 yn argymell peidio 芒 chael "cyfarwyddwr penodol" i Gymru, dan strwythur llywodraethu a rheoli newydd.

Elan Closs Stephens yw Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru ar fwrdd llywodraethu'r 大象传媒 ar hyn o bryd. Byddai'r r么l hon yn dod i ben dan gynlluniau'r pwyllgor.

Dywedodd ffynhonnell ar ran 大象传媒 Cymru fod y cynigion yn rhai "byrbwyll".

Disgrifiad o'r sainElan Closs Stephens yn cael ei holi ar Raglen Dylan Jones

Mae adroddiad y pwyllgor yn argymell cael gwared 芒'r ymddiriedolaeth a sefydlu bwrdd unedol o gyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.

Mae'r adroddiad yn nodi "y dylid delio 芒 materion rhanbarthol a chenedlaethol gan y bwrdd ar y cyd, ac nid trwy benodi cyfarwyddwyr penodol".

'Pledio'r achos'

Dywedodd ffynhonnell 大象传媒 Cymru: "I bob pwrpas, mae pob datblygiad darlledu mawr yng Nghymru dros y 50 mlynedd diwetha wedi digwydd oherwydd bod gyda ni rywun ar fwrdd y 大象传媒 yn pledio'r achos dros fuddiannau'r genedl ac yn ei dweud hi fel ag y mae hi."

"Dan y cynlluniau byrbwyll yma, mae yna berygl y byddwn ni'n cymryd camau mawr yn 么l."

'Gwarchod buddiannau Cymru'

Mewn cyfweliad ar raglen Dylan Jones fore dydd Iau, dywedodd Elan Closs Stephens bod yn rhaid gwarchod buddiannau Cymru: "Dwi yn cytuno gyda'r pwyllgor, fel aelod o'r ymddiriedolaeth, bod eisiau trefn wahanol o reoli'r 大象传媒, a 'da ni wedi argymell hynny, 'da ni isio corff sydd efallai'n llai, ac sydd 芒 sgiliau rheoli cryf arno fo.

"Mae'n sicr bod cynrychiolaeth o'r cenhedloedd, nid jest Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi bod ar y bwrdd er 1952, felly bydd rhaid i'r argymhellion fod yn rhai sy'n ddigonol i warchod buddiannau pobl Cymru."

'Un llais'

Dywedodd Ian Lucas, AS Wrecsam - aelod o'r Pwyllgor Seneddol - na allai aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gynrychioli Cymru gyfan.

"Dwi'n credu bod hi'n hynod bwysig fod gan y Bwrdd un llais a bod o'n un unedig, cryf ac yn holi'r cwestiynau cywir. Dyw hynny ddim yna ar hyn o bryd, a byddai hynny ddim yn digwydd drwy wisgo bathodyn sy'n dweud eich bod yn cynrychioli gwlad neu ranbarth penodol.

"Mae yna welliant wedi bod, ond dwi ddim yn credu fod y ffaith fod aelod o'r Bwrdd o Gymru yn gwneud y corff yn un ymatebol.

"Rydym angen rhywun sy'n cynrychioli pob rhan o'r DU ond sydd hefyd yn fodlon siarad ar ran Cymru."