Diogelu swyddi yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Bydd injan hybrid newydd yn cael ei hadeiladu yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, gan diogelu swyddi.
Gyda grant o 拢700,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd buddsoddiad o dros 拢7m mewn cyfleusterau cynhyrchu ar y safle.
Bydd y peiriannau 1.8-litr yn cael eu hallforio i Dwrci cyn cael eu gosod mewn model yn seiliedig ar gar Toyota C-HR Concept.
Mae tua 540 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y ffatri yng Nglannau Dyfrdwy.
Dywedodd cyfarwyddwr y ffatri, Jim Crosbie: "Mae'r cyhoeddiad yn bleidlais o hyder yn sgiliau uchel, safon ac ymrwymiad y gweithlu."
Ar ymweliad 芒 Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, dywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart: "Dyma newyddion gwych ac rwy'n hynod o falch bod y buddsoddiad arwyddocaol wedi cael ei sicrhau ar gyfer Toyota yng Nglannau Dyfrdwy."