大象传媒

Amser i David Cameron ymddiheuro meddai Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi galw ar y Prif Weinidog, David Cameron a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt i ymddiheuro wrth weithwyr iechyd yng Nghymru wrth i adroddiad annibynnol danseilio beirniadaeth y Ceidwadwyr o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ddydd Gwener cyhoeddodd y Sefydliad Dros Gydweithio a Datblygiad Economaidd (OECD) adroddiad yn ymwneud a rheolaeth y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y casgliad oedd nad oes yna "ddarlun cyson o un o'r systemau iechyd yn y Deyrnas Unedig yn perfformio'n well na'r llall".

Mae hefyd yn dweud bod yr ansawdd yn ganolbwynt i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Daw adroddiad yr OECD yn dilyn adroddiad Pedair Cenedl Nuffield yn 2014 a ddaeth i gasgliad tebyg. Roedd yr adroddiad hwnnw yn dweud: "Prin iawn yw'r arwyddion bod un wlad yn gwneud yn well na'r llall yn gyson ar draws y mesuryddion perfformiad."

'Pardduo' staff GIG

Ffynhonnell y llun, PA

Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi ymosod ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sawl achlysur yn y gorffennol.

Ym mis Ebrill 2014 daeth beirniadaeth lem gan David Cameron o'r GIG yng Nghymru pan ddywedodd: "Pan fo clawdd Offa yn dod yn ffin rhwng bywyd a marwolaeth, rydym yn tystio i sgandal genedlaethol."

Cafodd ei sylwadau eu beirniadu'n hallt gan nifer.

Dywedodd arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Mae'r adroddiad gan yr OECD eto yn dinoethi celwydd bod y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn perfformio'n well na Chymru.

"Mae'n amser i David Cameron a Jeremy Hunt ymddiheuro i staff GIG yng Nghymru, staff maen nhw wedi pardduo dros gyfnod o flynyddoedd mewn ymgais i elwa yn wleidyddol."

Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan ymateb i gynnwys adroddiad yr OECD yn ddiweddarach.