´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Connie Fisher

  • Cyhoeddwyd
connie

Y berfformwraig Connie Fisher sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan yr athletwr Jamie Baulch.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Rwy'n cofio syrthio oddi ar fy meic pan yn bedair oed. Dwi'n cofio mynnu bod fy rhieni'n tynnu'r stabilisers achos o'n i ishe reidio fy meic fel pawb arall. Nes i ddisgyn i ffwrdd yn syth a chracio'n mhen ar agor. Bu'n rhaid i mi gael pwythau. Awwww! Wnaeth hynny ddysgu imi bod rhaid cropian cyn cerdded.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'n i'n arfer ffansio Hunter o'r rhaglen 'Gladiators'. Dwi dal yn, 'chydig... Hefyd, roedd unrhyw seren oedd yn cyrraedd clawr y cylchgrawn 'Smash Hits' yn ffefryn am yr wythnos.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n ddall pan mae'n dod i wynebau, felly yn aml dwi'n ffeindio hi'n anodd i 'nabod pobl. Dwi'n gorfod gofyn lot o gwestiynau agored er mwyn trio gweithio allan pwy ydyn nhw nes bod rhywbeth yn clicio. Mae'n embarassing iawn.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Connie i amlygrwydd ar ôl ennill y gystadleuaeth deledu 'How Do You Solve A Problem Like Maria'?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Y diwrnod o'r blaen fe wnes i fwrw bys bach fy nhroed ar rhywbeth. Does 'na ddim byd gwaeth. Na'th pawb chwerthin a gwneud sŵn "Aaaww!" ond 'dych chi methu cydymdeimlo'n iawn nes bod o'n digwydd i chi. Do'n i ddim yn gallu siarad gan fy mod mewn cymaint o boen ac yn fy nagrau.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, dwi'n brathu fy ngwefus pan dwi'n nerfus.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llandudno. Dwi'n meddwl ei fod yn lle mor hardd; y pier, y theatr, Y Gogarth, 'na'r cyfan dwi angen.

Dyna lle wnes i ddechrau rhedeg. Unrhyw esgus i fynd, a dwi yno. Dwi wrth fy modd yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd y BAFTAs yn 2007 yn awesome. Ges i gynnig mynd i barti diwedd nos efo cast 'The Royle Family', ac ro'n i yno'n dawnsio nes oedd fy nhraed yn brifo.

Disgrifiad o’r llun,

Connie yn 'The Sound of Music', nid ym mharti BAFTA!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cerddorol, bright a byrlymus.

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Curious Incident of a Dog in the Night-Time' gan Mark Haddon.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Inside Out'. Mi roedd o'n wych.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Mi fyswn i'n hoffi Anne Hathaway i chwarae fy rhan i.

Dy hoff albwm?

Ar y funud mae'n rhaid imi ddweud Adele - '25'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Dwi'n hoffi cwrs cynta' da - Baked Camembert… mmm.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n meddwl Kim Kardashian, er mwyn gweld os yw ei bywyd hi mor ridiculous â hynny. Ond efallai Lucy Owen hefyd achos mi fyswn i'n hoffi darllen y newyddion.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhydian Roberts