大象传媒

Datgelu prototeip car o Gymru wedi'i bweru gan hydrogen

  • Cyhoeddwyd
Rasa

Mae prototeip ar gyfer car sydd wedi'i bweru gan hydrogen, gafodd ei wneud yng Nghymru, wedi cael ei ddatgelu.

Cafodd y Rasa ei ddatblygu yn Llandrindod ym Mhowys gan Riversimple Movement Ltd.

Mae'r prototeip yn gallu mynd o 0-60mya mewn 10 eiliad, a'r unig allyriad yw d诺r.

Bydd y car, a dderbyniodd grant o 拢2m gan Llywodraeth Cymru yn 2015, yn cael cyfnod prawf o 12 mis, gyda'r bwriad o ryddhau'r model terfynol yn 2018.

Dywedodd Hugo Spowers, sylfaenydd Riversimple: "Mae'r car yn syml, ysgafn a hwyl ym mhob agwedd."

Pe bai'r cyfnod prawf yn llwyddiannus, dywedodd y cwmni mai'r cam nesaf fyddai sefydlu ffatri, fyddai'n cyflogi hyd at 220 o weithwyr.

Mae'r cwmni yn gobeithio y gall y Rasa fod y car mwyaf effeithlon yn y byd.

Yn pwyso dim ond 580kg - tua hanner car arferol - gall deithio hyd at 300 milltir ar 1.5 cilogram o hydrogen.