26,000 i adael ysgol gynradd 'methu darllen yn dda'
- Cyhoeddwyd
Dros y pum mlynedd nesa' mae perygl i 26,000 o blant Cymru adael ysgolion cynradd yn methu darllen yn dda.
Daw'r honiad gan gr诺p ymgyrchu 'Darllena. Datblyga' sy'n rhybuddio bod angen i Lywodraeth nesa' Cymru weithredu.
Maen nhw'n dweud y bydd 10,000 o'r plant yma yn dod o gefndiroedd tlawd a bod yn rhaid rhoi cyfle i ddisgyblion wireddu eu potensial.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd llythrennedd yn ganolog i gwricwlwm newydd.
Mae gr诺p 'Darllena. Datblyga' yn ymgyrchu dros bob plentyn yn gallu darllen yn dda erbyn eu bod yn 11 mlwydd oed.
'Uchelgeisiol'
Eu gobaith yw i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol uwchradd fel darllenwyr hyderus erbyn 2025.
Er mwyn cyflawni hyn, mae'r gr诺p yn galw ar fuddsoddi mwy o arian yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar gan gynnwys cymorth arbenigol.
"Rydym yn gwybod bod hon yn her uchelgeisiol, ond mae'n bosib ei chyflawni ac mae o fewn gafael os ydyn ni'n canolbwyntio ein hymdrechion," meddai cadeirydd y gr诺p, Mary Powell-Chandler.
Bydd llythrennedd a rhifedd "wrth galon" cwricwlwm newydd, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
'Manteision'
Dywedodd Aled Roberts, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar addysg: "Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mewn trafodaethau ar y gyllideb, fynnu bod y Premiwm Disgybl yng Nghymru yn cael ei greu, sydd yn canolbwyntio adnoddau ar y plant mwyaf difreintiedig.
"Rydym yn gweld manteision y polisi yma yn barod, sydd yn dechrau torri'r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad sydd wedi bod yn fwrn ar ein system addysg ers cymaint o amser. Ond mae'n rhaid gwneud mwy ac nid oes lle i laesu dwylo."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas: "Mae angen brys a chlir i wella safonnau yn ein hysgolion. Mae sgiliau darllen cryf yn agor y drws i blant i wneud yn dda mewn pynciau eraill ac mae'n bwysig bod rhieni yn ogystal ag athrawon yn cydnabod hyn."
Angela Burns ydi llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg. Dywedodd: "Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at bryderon difrifol a gwirioneddol, ac fel plaid fe fydda'r Ceidwadwyr Cymreig yn adlewyrchu'r galw am gymryd camau pendant i daclo'r diffygion mewn safonau mewn rhai ysgolion cynradd Cymreig".