Tai haf: Cynghorau'n ystyried treth newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 大象传媒 Cymru wedi darganfod fod pob un o'r saith cyngor yng Nghymru lle mae nifer sylweddol o dai haf yn ystyried cyflwyno treth newydd arnynt.
Yn yr ardaloedd dan sylw, yr amcangyfrif yw bod tua 16,000 o dai haf.
Bwriad y cynghorau yw defnyddio cymal newydd yn y Ddeddf Tai, sy'n dod i rym fis Ebrill, i alluogi i awdurdodau lleol i godi t芒l ychwanegol ar ben treth y cyngor ar dai haf.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y p诺er i godi treth ychwanegol yn "cydnabod yr effaith sylweddol y mae tai haf yn gallu ei gael ar gynaliadwyedd cymunedau lleol Cymru".
Mae t欧 haf yn cael ei ddiffinio fel eiddo sydd ddim yn brif gartref ond sydd 芒 dodrefn ynddo.
Yn y saith sir lle mae'r nifer fwyaf o dai haf, yr amcangyfrif yw bod cyfanswm o 15,846 ohonynt:
Gwynedd - 4,815
Sir Penfro - 3,000
Ynys M么n - 2,300
Ceredigion - 2,018
Conwy - 1,513
Powys - 1,200
Sir Gaerfyrddin - 1,000
Mae ymgynghoriad gan Gyngor Sir Penfro ar gynllun i ychwanegu t芒l o hyd at 100% o dreth y cyngor ar dai haf yn dod i ben ddydd Llun.
Mae 3,000 o dai haf yn y sir, un o'r ffigyrau uchaf yng Nghymru, a'r gred yw bod hyd at 20% o dai mewn rhai ardaloedd yn dai haf.
Yng Ngheredigion, lle mae ychydig dros 2,000 o dai haf, mae'r cyngor hefyd yn cynnal ymgynghoriad.
Bydd cynghorau Gwynedd, Ynys M么n, Conwy, Powys a Sir Gaerfyrddin hefyd yn ystyried codi t芒l ychwanegol i dreth y cyngor.
Llai o arian?
Ym Mhowys, bydd y cyngor yn ystyried "treth" tai haf o 30% neu 50%, ond bydd rhaid penderfynu cyn diwedd y flwyddyn ariannol yma os ydyn nhw am i'r dreth ddod i rym ym mis Ebrill 2017.
Er bod bron i 5,000 o dai haf yng Ngwynedd, mae'r cyngor yn pryderu y gallai'r newid olygu bod y cyngor yn derbyn llai o arian mewn trethi.
Mae adroddiad i'r cyngor yn nodi y gallai'r newid greu "incwm ychwanegol sylweddol", ond yn rhybuddio y gallai arwain at fwy o bobl yn ceisio cofrestru tai haf fel busnesau a'u rhentu allan am gyfnod o'r flwyddyn.
Yn ogystal ag osgoi'r dreth ychwanegol, byddai hynny'n galluogi i berchnogion wneud cais am gymhorthdal busnesau bach o 50% o drethi busnes.
Mae'r adroddiad yn dweud bod angen i'r cyngor ymchwilio i ganlyniadau'r dreth ychwanegol cyn bwrw 'mlaen.
Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau defnyddio'r un ddeddf i godi tal ychwanegol ar dai gwag, a lleihau'r nifer o gartrefi sydd ddim yn cael eu defnyddio yn y sir.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y p诺er i godi treth ychwanegol yn "cydnabod yr effaith sylweddol y mae tai haf yn gallu ei gael ar gynaliadwyedd cymunedau lleol Cymru".
"Mae'r gallu i godi tal ar dai haf yn cynnig ffordd ymarferol i gynghorau ddefnyddio'r system dreth i sicrhau bod tai haf yn cyfrannu'n deg i dalu am wasanaethau lleol a thai fforddiadwy, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru.
"Bydd yr angen am daliadau ychwanegol yn cael ei ystyried ar sail lleoliadau penodol, a bydd unrhyw incwm ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi i mewn i wasanaethau lleol."