大象传媒

Gwyro ffordd newydd i ddiogelu coeden hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
CoedenFfynhonnell y llun, Treehunter.co.uk

Mae gweinidogion y llywodraeth wedi cytuno i wyro llwybr ffordd osgoi yn y canolbarth er mwyn diogelu coeden dderwen hanesyddol.

Fe wnaeth bron i 5,000 o bobl lofnodi deiseb i achub Derwen Brimmon ar fferm ger y Drenewydd, oedd dan fygythiad o achos ei bod ar lwybr ffordd osgoi arfaethedig y dref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i addasu llwybr y ffordd osgoi newydd, gan addo i wneud "m芒n waith" yn unig mewn ardal o fewn 15m i wreiddiau'r goeden.

Ond fe alwodd gwrthwynebwyr am fwy o sicrwydd mewn llythyr i bwyllgor deisebau'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Rob McBride: "Dydyn ni ddim yn erbyn y ffordd osgoi, rydyn ni am iddyn nhw ei symud i'r ochr ychydig."

Mae Mervyn Jones, sydd yn berchen ar y tir lle mae'r goeden wedi ei lleoli, yn credu y gallai gwreiddiau'r dderwen gael eu heffeithio gan y ffordd osgoi, ac y byddai'n marw os na fydd y ffordd yn cael ei hadeiladu ddigon pell i ffwrdd.