大象传媒

Lansio prosiect Menywod Cymru

  • Cyhoeddwyd
merched
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Christine James, Branwen Tucker, Elen Rhys, Siwan Davies, Heledd Bebb a Ffion Rhys yn rhan o'r digwyddiad

Mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Abertawe nos Fercher, fe fydd Academi Hywel Teifi yn lansio prosiect Menywod Cymru, ar y cyd 芒 chyfres newydd Mamwlad ar S4C.

Mae Menywod Cymru yn brosiect ar ffurf gwefan, a'i nod yw rhoi gogwydd Gymraeg a Chymreig i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, sy'n cael ei ddathlu ar 8 Mawrth bob blwyddyn.

Pwrpas y diwrnod ydi tynnu sylw at arloeswyr benywaidd y gorffennol a'r presennol.

Bwriad Academi Hywel Teifi yw datblygu'r adnodd hwn, trwy ychwanegu at restr yr arloeswyr, gwahodd blogwyr gw芒dd unwaith y mis, a chroesawu mewnbwn gan y cyhoedd.

Ymhlith yr arloeswyr ar wefan Menywod Cymru, mae:

  • Yr Athro Christine James - darlithydd, Prifardd a'r fenyw gyntaf i gael ei hethol yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain (2013-2016).

  • Elin Rhys - gwyddonydd a sylfaenydd a rheolwr cwmni aml-gyfrwng Telesgop.

  • Amy Dillwyn - awdur, diwydianwraig ac ymgyrchydd arloesol.

  • Mary Wynne Warner - mathamategydd disglair a lwyddodd i oresgyn llu o anawsterau i wneud cyfraniad nodedig yn ei maes.

Mamwlad

Bwriad tebyg i brosiect Menywod Cymru sydd y tu 么l i'r gyfres Mamwlad ar S4C.

Yn y drydedd gyfres o Mamwlad sy'n dechrau ar y 6 Mawrth, bydd Ffion Hague yn olrhain hanes nifer o ferched gan gynnwys Betsi Cadwaladr, Frances Hoggan a Morfydd Llwyn Owen.

Dywedodd cydlynydd prosiect Menywod Cymru, Non Vaughan Williams, sy'n darlithydd ar y Cyfryngau Digidol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae lansio prosiect Menywod Cymru yn ddigwyddiad cyffrous iawn i ni fel Prifysgol, gydag Academi Hywel Teifi ac S4C yn dathlu ar y cyd gyfraniad menywod mewn gwahanol feysydd.

"Ar un llaw bydd gwefan Menywod Cymru yn cynnig adnodd defnyddiol i nodi digwyddiadau megis Diwrnod Rhyngwladol Menywod ac S4C yn darlledu trydedd cyfres o Mamwlad fydd yn cychwyn ddechrau fis nesaf.

"Mae'r mentrau yma yn fodd o gynnig rolau model addas i ferched a phobl ifainc a'u hannog i wireddu eu breuddwydion."