大象传媒

Clefyd Seliag: Galw am ailfeddwl presgripsiynau

  • Cyhoeddwyd
breadFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwenith mewn bwydydd fel bara, pasta a chancennau

Mae 'na alwadau ar y llywodraeth i ailfeddwl polisi sy'n galluogi i bobl sy'n methu 芒 bwyta glwten gael presgripsiwn gan y Gwasanaeth Iechyd.

Yr amcangyfrif yw bod 30,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glefyd seliag - ond dim ond 6,000 sydd wedi cael diagnosis.

Mae'r clefyd yn cael ei reoli drwy ddiet, ac fe all cleifion gael rhai bwydydd ar brescripsiwn gan eu meddyg.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddai'n well rhoi lwfans blynyddol i ddioddefwyr, ond mae'r llywodraeth yn dweud bod presgripsiynau yn helpu pobl i gadw at ddiet arbennig.

Salwch 'yn normal'

Mae ymchwil gan raglen Eye on Wales ar 大象传媒 Radio Wales yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd wedi gwario 拢1.95m ar bresgripsiynau yn 2014.

Mae hynny'n ffigwr sydd wedi dyblu ers y flwyddyn 2000.

Yr unig driniaeth ar gyfer clefyd seliag yw bwyta bwydydd sydd heb glwten - protein sy'n cael ei ddarganfod mewn gwenith, ac sydd mewn bwydydd fel pasta a bara.

Gall bwydydd heb y glwten fod yn ddrud ac yn anodd cael gafael arnyn nhw, ac felly gallai dioddefwyr gael presgripsiynau gan eu meddyg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julia Davage yn cael bwydydd fel bara a phasta ar bresgripsiwn

Mae dwy o ferched Julia Davage o Gaerdydd yn dioddef o'r cyflwr, a dywedodd bod un ferch, Cerys, wedi cyrraedd sefyllfa lle byddai'n gwrthod bwyta.

Dywedodd ei bod hi "wedi stopio tyfu, ac roedd hi'n edrych yn denau iawn i'w hoed".

Dywedodd Cerys, sydd bellach yn 14, y byddai "bod yn s芒l ar 么l bwyd yn normal" ac y byddai'n cael poenau yn ei bol am oriau ar 么l bwyta.

'Dadl resymol'

Yn 么l un meddyg teulu, Dr David Bailey, mae'r system o gael presgripsiynau angen newid.

Dywedodd bod "dadl resymol" o blaid rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr oherwydd y costau uwch sydd ynghlwm 芒'r clefyd.

Ond ychwanegodd nad gwneud hynny drwy feddygon teulu oedd yr opsiwn gorau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Darren Millar am weld newid yn y drefn

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno, gan ddweud bod angen ffordd fwy "effeithlon" yn y modd y mae'r trethdalwr yn cyfrannu at y gost.

Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Darren Millar: "Rydyn ni'n meddwl bod cynllun lwfans yn ffordd mwy addas o ddelio gyda'r pethau yma na bod meddygon teulu yn rhoi presgripsiwn am fara a chacennau siocled."

Er hynny, mae elusen Coeliac UK yn dweud y byddai newid o'r drefn rhoi presgripsiwn yn achos pryder.

Dywedodd Tristan Humphreys o'r elusen: "Mae presgripsiynau yn llawer rhatach na thalu am ganlyniadau pethau fel osteoporosis neu ganser y coluddyn yn y tymor hir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ymchwil yn awgrymu bod presgripsiynau am fwydydd heb glwten, cymorth rheolaidd a chefnogaeth yn helpu pobl i gadw at ddiet heb glwten."