Byddai datganoli plismona angen buddsoddiad 'anferth'
- Cyhoeddwyd
Byddai angen buddsoddiad "anferth" mewn adnoddau er mwyn mynd i'r afael a throseddau difrifol petai plismona'n cael ei ddatganoli, meddai un Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston y byddai'n rhaid i heddluoedd Cymru fynd i ofyn am arbenigedd asiantaethau yn Lloegr fel yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, neu brynu'r arbenigedd oedd ar gael.
Llywodraeth Prydain sydd yn gyfrifol am holl heddluoedd Cymru a Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn "gyfrinach" ei fod am weld cyfrifoldeb am heddluoedd Cymru'n cael ei ddatganoli.
Fe ddaeth Comisiwn Silk i'r casgliad ym mis Mawrth 2014 y dylai'r cyfrifoldeb am gyfiawnder ieuenctid a phlismona gael ei ddatganoli i Gymru.
'Perthynas tlawd'
Dywedodd Mr Johnston: "Mae perygl go iawn y byddwn ni'n cael plismona lleol yng Nghymru sydd yn dda, ond os oes angen rhywbeth arnom ni ar lefel uwch, fel Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, yna fe fyddai'n rhaid i ni edrych i gyfeiriad Lloegr ac fe fyddwn wedi ein hynysu ac fe allen ni fod yn berthynas tlawd."
Byddai lefel y buddsoddiad i brynu adnoddau fel yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn "anferth", meddai.
Mae Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi cefnogi barn Mr Johnston, gan ddweud: "Does dim y gall y Cynulliad wneud yn ychwanegol, heblaw am fiwrocratiaeth a chost."
Dywedodd ei fod yn credu na fyddai datganoli plismona'n "gwneud pobl yn fwy diogel", ac ychwanegodd y byddai tipyn o "blismona ar lawr gwlad yn dioddef", gan gynnwys gallu swyddogion i ddefnyddio arbenigedd yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu gyda swyddfa Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, am ymateb. Mae Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi dweud yn y gorffenol nad yw am weld plismona'n cael ei ddatganoli i Gymru.
Mae Llywodraeth yr Alban, sy'n gyfrifol am blismona a chyfiawnder, wedi buddsoddi 拢75m yng Nghampws Trosedd yr Alban, sydd yn cydlynu gwaith asiantaethau ar draws y wlad i frwydro trosedd a therfysgaeth.
Mae Colin Rogers, sy'n gyn-heddwas ac yn Athro ar bwnc plismona ym Mhrifysgol De Cymru yn credu na fyddai angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n eang, ond byddai angen sefydlu cyrff Cymreig fyddai yn y pen draw yn arwain at sefydlu un llu Cymreig.
Dywedodd yr Athro Rogers: "Byddai angen gweld Gweinidog Plismona, Dirprwy Weinidog Plismona, ac yna efallai corff gweinyddol er mwyn cefnogi plismona yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Byddai'r coleg plismona efallai'n creu is-golegau rhanbarthol neu ganolfannau drwy Gymru a Lloegr, ac fe fyddai Cymru siwr o fod yn un o'r canolfannau rhanbarthol hynny."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid yw'n gyfrinach ein bod am weld cyfrifoldeb am heddluoedd Cymru'n cael ei ddatganoli. Plismona yw'r unig wasanaeth brys sydd heb ei ddatganoli; ac fe fyddai newid hyn yn galluogi cydweithio gwell rhwng y gwasanaethau brys.
"Rydym wedi dweud yn barod ein bod yn credu bod datganoli elfennau eraill o'r system gyfiawnder troseddol yn gynllun ar gyfer y tymor hir. Nid yw hyn wedi newid."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae gan bawb yng Nghymru ddylanwad uniongyrchol ar blismona yn eu hardaloedd, drwy eu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd etholedig ag atebol."
Dywed yr Athro Colin Rogers ei fod yn credu bod awydd cynyddol gan uwch swyddogion o fewn heddluoedd Cymru am ddatganoli plismona i fae Caerdydd.
"Mae uwch swyddogion yn teimlo bod y gallu ganddyn nhw i chwarae eu rhan yn haws gyda gweinidogion yng Nghaerdydd, yn hytrach na gorfod mynd i Lundain i siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol."
'Ffaeleddau sylweddol'
Rhybuddiodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, na fydd modd cwrdd ag anghenion penodol plismona mewn cymunedau Cymreig os na fydd y maes yn cael ei ddatganoli.
Meddai: "Mae gan Gymru ei heriau ei hun mewn perthynas 芒 thorcyfraith, oherwydd nifer o ffactorau fel dwysedd poblogaeth, topograffeg a thueddiadau diwylliannol.
"Mae 'na ffaeleddau sylweddol gyda'r drefn o ariannu plismona mewn perthynas ag anghenion penodol cymunedau Cymreig; dyw'r drefn bresennol ddim yn ystyried y galw mawr ar wasanaethau mewn ardaloedd ymwelwyr.
"Mae 'na hefyd bryder am y gost o ymateb i achosion ar draws cymunedau gwledig a rheoli'r galw am wasanaethau ar draws ardaloedd sy'n denau eu poblogaeth.
"Does dim cydnabyddiaeth o amrywiaeth o fewn y fformiwla, sy'n golygu fod costau ychwanegol yn gysylltiedig 芒 darparu gwasanaethau mewn ieithoedd eraill ddim yn cael eu hystyried - mae hyn yn berthnasol iawn i Gymru."