大象传媒

Gwahardd taclo mewn gemau rygbi ysgol?

  • Cyhoeddwyd
rygbi ysgolion

Mae 'na alw am wahardd taclo mewn gemau rygbi yn ysgolion Cymru a gweddill gwledydd Prydain ac Iwerddon.

Mae dros 70 o ddoctoriaid ac academyddion wedi llofnodi llythyr agored, sy'n rhybuddio y gall anafiadau o ganlyniad i daclo gael effaith barhaol ar blant.

Maen nhw'n dadlau bod traean yr anafiadau a'r cyfergydion mewn gemau rygbi ieuenctid yn digwydd oherwydd taclo.

Ond mae cefnogwyr y gamp yn dweud bod rygbi'n ffordd o gryfhau cymeriad plentyn, a bod ffurfiau rygbi eraill yn llai heriol.

'Peryglon mawr'

Yn eu llythyr at weinidogion, mae prif swyddogion meddygol a chomisiynwyr plant Cymru, Yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn dweud fod y peryglon i chwaraewyr o dan 18 oed yn fawr.

Maen nhw'n dweud fod chwarae rygbi'n rhan orfodol o addysg ymarfer corff nifer o ysgolion uwchradd.

"Mae mwyafrif yr anafiadau'n digwydd trwy gyswllt neu wrthdrawiad, fel mewn tacl neu sgrym," medd y llythyr.

"Mae'r anafiadau hyn yn cynnwys torri asgwrn, rhwygo tennyn, datgymalu ysgwydd, anafiadau asgwrn cefn ac anafiadau pen all arwain at effaith byrdymor, hirdymor neu fod yn farwol i blant."

Mae'r meddygon yn dweud fod cyfergyd yn anaf cyffredin, ac maen nhw'n tynnu sylw at y cysylltiad rhwng cael sawl cyfergyd a sgil effeithiau fel niwed i'r ymenydd, iselder, colli cof, ac effaith ar leferydd.

Un sydd wedi llofnodi'r llythyr yw'r Athro Allyson Pollock, o Brifysgol Queen Mary yn Llundain.

Dywedodd ei bod wedi casglu tystiolaeth dros gyfnod o 12 mlynedd, sy'n dangos fod gan chwaraewyr rygbi hyd at 19 oed 28% o siawns o gael anaf yn ystod tymor o 15 g锚m.

"Os ydych chi'n meddwl am filiwn o blant yn chwarae pob blwyddyn gyda'r perygl o gael anaf, gallwch ddisgwyl gweld 300,000 o anafiadau ychwanegol y flwyddyn, gan gynnwys hyd at 100,000 o gyfergydion," dywedodd.

Ychwanegodd fod plentyn yn colli dros saith niwrnod o ysgol o ganlyniad i anaf yn 90% o'r achosion.

Wrth ymateb, dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod diogelwch chwaraewyr yn hollbwysig.

"Rydym yn credu fod rygbi'n gamp wych i blant, ac mewn oes pan fo segurdod a gordewdra yn bryderon cymdeithasol mawr, mae'r hyn sydd i'w elwa'n gymdeithasol o rygbi llawer yn fwy na'r anfanteision posib.

"Ymysg yr hyn mae plant yn gallu ei elwa o chwarae rygbi mae cynnydd yn eu hyder a'u disgyblaeth, yn ogystal 芒 mwynhau ymarfer corff tra'n gweithio'n rhan o d卯m, fydd yn dysgu sgiliau ehangach yn y byd."