Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
TVR: 'Gallai safle cynhyrchu gael ei leoli yn y de'
Mae TVR, y cwmni sy'n cynhyrchu ceir cyflym, wedi dweud y gallai ei safle newydd i gynhyrchu ceir gael ei leoli yn ne Cymru.
Fe wnaeth y cwmni gadarnhau ei fod yn edrych ar safle yn yr ardal - un o dri safle yn y DU.
Daw'r newyddion wythnos ar 么l i Aston Martin gyhoeddi y byddan yn cynhyrchu eu car moethus newydd yn Sain Ta Bro Morgannwg.
Dywedodd TVR, sydd a'i wreiddiau yn Blackpool, ei fod yn gobeithio gwneud "penderfyniad o fewn yr wythnosau nesa".
Dyw'r cwmni heb ddatgelu manylion am leoliad y safle posib yn y de.