大象传媒

Lle oeddwn i: Huw Chiswell

  • Cyhoeddwyd

Mae 'Y Cwm' yn un o ganeuon fwya' eiconig yr iaith Gymraeg. Ond ble'n union oedd Huw Chiswell pan gyfansoddodd y g芒n a enillodd gystadleuaeth C芒n i Gymru yn 1984?

Yn y gyntaf o'r gyfres 'Lle oeddwn i', bu Cymru Fyw yn holi am y stori tu n么l i'r g芒n:

Ffynhonnell y llun, Huw Chiswell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Chiswell yn perfformio yn y 1980au

Yn rhif 2, Andrews Road yn ardal Ystum Taf yng Nghaerdydd o'n i, sef y t欧 lle 'nes i fyw ynddo gynta' pan symudais i Gaerdydd. R'on i'n 23 oed ac yn gweithio fel ymchwilydd gyda HTV.

R'on i'n rhannu t欧 gyda Huw Jenkins a dwi'n credu yr o'dd e yn y t欧 y noson honno. Dim ond newydd ga'l piano yng Nghaerdydd o'n i, baby grand o'dd e ac o'dd e bron yn llenwi'r 'stafell fach!

Dwi'n cofio cyfansoddi'r g芒n, noson cyn dyddiad cau cystadleuaeth C芒n i Gymru yn 1984. Gwna'th fy nghariad i ar y pryd roi bet i fi na fydden i'n cystadlu!

Y gystadleuaeth oedd y sbardun, felly eisteddes i lawr y noson honno i sgwennu. Wnes i gymryd y gystadleuaeth yn llythrennol, sef c芒n i Gymru - fel 'na o'n i'n meddwl o'dd hi fod.

'Sgwennes i g芒n am fy Nghymru i, rhywbeth o'dd yn agos i'm mywyd i. Roedd hi'n gyfnod gwleidyddol hefyd ym maes y glo felly o'dd e'n naturiol i s么n am hwnnw. R'on i ond wedi symud i Gaerdydd ers llai na dwy flynedd, felly o'n i'n teimlo bo fi'n byw rhywle arall i adre am y tro cynta' go iawn.

Mae'r g芒n yn eitha' sbeshal i fi nawr, mae fel aelod o'r teulu.

Perfformiwyd y g芒n yng nghystadleuaeth C芒n i Gymru 1984 gan Geraint Griffiths.