Band ifanc o F么n yn ennill C芒n i Gymru
- Cyhoeddwyd
Y g芒n 'Dim ond un' gan Ffion Elin a Rhys Jones sydd wedi ennill tlws C芒n i Gymru 2016.
Ynghyd 芒'r tlws roedd gwobr ariannol o 拢5,000.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth nos Sadwrn yng Nghanolfan Ddarlledu'r 大象传媒 yn Llandaf, ac yn cyflwyno'r noson oedd Trystan Ellis Morris a'r gantores Elin Fflur.
Yn perfformio'r g芒n oedd y band ifanc o Borthaethwy, Cordia.
Dywedodd Ffion Elin sy'n aelod o'r band mai thema'r g芒n yw salwch meddwl.
"Neges y g芒n yw bod bob amser rhywun yno sy'n medru helpu a 'da chi ddim ar eich pen eich hunain. Mae ein hathrawes gerddoriaeth yn Ysgol David Hughes, Gwennant Pyrs wedi ennill C芒n i Gymru o'r blaen gyda'r g芒n 'Dal i Gred'u ac mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth."
Tlws y Beirniaid
Roedd hefyd gwobr ychwanegol eleni am hoff g芒n y beirniaid, sef Tlws y Beirniaid. Cordia gafodd ei wobrwyo gan y beirniaid hefyd.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, "Llongyfarchiadau mawr i enillydd C芒n i Gymru 2016 ac i'r holl berfformwyr am noson llawn egni a thalent. Roedd hi'n braf cael gweld enwau newydd a chyfarwydd, yn gyfansoddwyr a pherfformwyr yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau a phob lwc i Cordia wrth fynd ymlaen i berfformio yn yr 糯yl Ban-Geltaidd."
Yn cystadlu yn y rownd derfynol am y teitl o enillydd C芒n i Gymru oedd: 'Caru nhw i gyd' gan S茂on Meirion Owens, 'Actor Gorau Cymru' gan Barry Jones, 'Y Penderfyniad' gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys, 'Caeth' gan Sara Wyn, 'Dim ond un' gan Cordia, 'Ar ei ffordd' gan Alun Evans, 'Cannwyll' gan Geth Vaughan a 'Meddwl am ti' gan Kizzy ac Eady Crawford.
Ar y panel o feirniaid eleni roedd y gantores Alys Williams, y cyflwynydd Guto Rhun a'r cyfansoddwr Robert Arwyn.