Chwaraeon merched: Galw am sylw cyfartal

Mae rhai o ferched amlycaf y byd chwaraeon yng Nghymru wedi galw am roi fwy o sylw i chwaraeon merched ar y cyfryngau.

Mae'r gr诺p, sy'n cynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, y nofwraig Jazz Carlin a'r athletwraig triathlon, Non Stanford, yn pryderu am ddiffyg sylw i athletwyr benywaidd Cymru yn y cyfryngau.

Mewn llythyr agored at 大象传媒 Cymru, ITV Cymru, S4C a Media Wales, mae'r gr诺p yn galw am benodi arweinwyr i hybu chwaraeon merched yn y cyfryngau.

'R么l bwysig ac arbennig'

Yn 么l y llythyr, er y llwyddiant yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain a hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, "dim ond 7% o'r chwaraeon rydym yn darllen amdanynt, yn eu gwylio neu'n gwrando arnynt yn y DU sy'n chwaraeon merched, gyda dim ond ychydig dros 10% o ran sylw ar y cyfryngau, a'r rheswm pennaf am hyn yw'r sylw i dennis merched".

Mae'n ychwanegu: "Er mai ffigyrau o astudiaeth ar lefel y DU yw'r rhain, credwn eu bod yn cynrychioli'r darlun yng Nghymru ac maent yn peri pryder mawr."

Mae'r rhai sydd hefyd wedi arwyddo'r llythyr yn cynnwys Non Evans, sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn sawl camp, Frankie Jones, wnaeth ennill medal gymnasteg yng Ngemau'r Gymanwlad, a phrif weithredwraig a chadeirydd Chwaraeon Cymru; Sarah Powell a Laura McAllister.

Maen nhw'n dweud bod gan chwaraeon "r么l bwysig ac arbennig" yn hunaniaeth Cymru, a bod angen "dathlu'r dreftadaeth hon a rhoi sylw i bencampwyr byd, Olympaidd a Pharalympaidd y dyfodol".

Eu pryder yw y gall hynny fod "mewn perygl os na fydd mwy o gydbwysedd o ran y sylw a roddir".

Mewn datganiad, dywedodd 大象传媒 Cymru: "Mae 大象传媒 Cymru wedi bod yn falch i roi sylw i ystod ehangach o chwaraeon nag unrhyw ddarlledwr arall yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gwneud hyn yn wythnosol yn ogystal 芒 rhoi sylw i ddigwyddiadau hanesyddol fydd yn cynnwys Hanner Marathon y Byd, Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni."

Y rhai eraill sydd wedi arwyddo'r llythyr yw:

Anne Ellis (Cyngor Gemau Cymanwlad Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru), Olivia Breen (athletau), Caroline Spanton (rygbi), Jess Fishlock (p锚l droed), Manon Carpenter (beicio), Michaela Breeze (codi pwysau), Anne Adams King (Prif Weithredwr Beicio Cymru a chyn-nofwraig Olympaidd), Helen Phillips (Cyngor Gemau Cymanwlad Cymru), Suzy Drane (p锚l rwyd), Sarah Jones (Prif Weithredwr P锚l Rwyd Cymru), Nicole Cooke (beicio), Sarah Thomas (hoci), Jayne Ludlow (p锚l droed).