大象传媒

Ymosodiadau ar ddefaid gan g诺n yn 'ddigwyddiad dyddiol'

  • Cyhoeddwyd
DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymosodiadau gan g诺n ar ddefaid yn "ddigwyddiad dyddiol" erbyn hyn, meddai Heddlu'r Gogledd.

Roedd y Cwnstabl Dave Allen o Uned Troseddau Gwledig y Gogledd yn siarad wedi i naw dafad gael eu lladd yn Afonwen yn Sir y Fflint ddydd Llun:

"Mae'r math yma o beth yn digwydd drwy'r amser yn y gogledd erbyn hyn," meddai.

"Dwi 'di cael pedair galwad heddiw (dydd Llun) yn ymwneud ag ymosodiadau ar ddefaid. Cafodd dafad ei lladd gan filgi yn Rhuthun a dwi ar y ffordd i ddelio ag ymosodiad yn Llandudno."

Ychwanegodd: "Fe ddylai perchnogion c诺n fod yn ymwybodol nad yw'r un ci yn ddiogel o gwmpas da byw.

"Ers miloedd o flynyddoedd, mae c诺n wedi eu bridio i hela. Mae e yn eu DNA nhw."

'Golygfa erchyll'

Wrth gyfeirio at yr achos yn Afonwen, dywedodd PC Allen: "Roedd y defaid yn pori yn y dyffryn. Mae'n amlwg eu bod nhw wedi eu herlid i lawr y bryn... ac fe gawson nhw'u cornelu.

"Roedd hi'n olygfa erchyll. Roedd rhai o'u clustiau wedi eu cnoi, ac roedd tyllau yng ngyddfau rhai o'r defaid oroesodd yr ymosodiad, sy'n cydfynd ag ymosodiad gan gi.

"Mae'r ffermwr yn amlwg yn flin ac yn bryderus, oherwydd nad yw'r ci neu'r c诺n oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi eu dal, ac fe allai ymosodiad arall ddigwydd yn y nos.

"Er iddo ddigwydd mewn lle anghysbell, rwy'n apelio ar dystion i gysylltu. Gallai rhywun fod wedi bod yn mynd a'i gi am dro ar y pryd."