大象传媒

Prinder o ferched mewn gwyddoniaeth, yn 么l adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Airbus A380 wingFfynhonnell y llun, Airbus

Mae angen mwy o ferched mewn swyddi gwyddonol gan fod "prinder dybryd" yn atal twf economaidd Cymru at y dyfodol, medd adroddiad newydd.

Mae'r ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru yn ceisio canfod ffyrdd o annog merched i swyddi STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Mae'r adroddiad yn dweud y gallai 600 o swyddi academaidd STEM gwag gael eu llenwi drwy gael mwy o ferched mewn gyrfaoedd perthnasol.

Ar draws y DU byddai gwyddonwyr benywaidd ychwanegol yn werth 拢2 biliwn i'r economi.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched.

Daeth i'r casgliad hefyd mai ychydig iawn o ferched oedd yn astudio pynciau STEM ar 么l 16 oed, ac mae'n awgrymu recriwtio mwy o ferched i'r gweithlu fel graddedigion, drwy brentisiaethau a llwybrau eraill.

Canfyddiad arall oedd bod merched oedd 芒 gradd mewn pwnc STEM yn llai tebyg o fynd i yrfa yn y maes yna na dynion.

Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad oedd:

  • Bod angen athrawon gyda sgiliau gwyddonol i ysbrydoli disgyblion;

  • Bod angen cysylltiadau cryfach rhwng addysg a busnesau;

  • Herio stereoteipiau rhyw;

  • Strategaethau i helpu merched i ddychwelyd i'r gwaith wedi cyfnod mamolaeth;

  • Cynyddu nifer y merched ar bob lefel o fywyd academaidd, diwydiant a masnach i 50:50 erbyn 2020;

  • Diddymu'r bwlch rhwng cyflogau dynion a merched.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru: "Mae prinder merched mewn swyddi STEM yn bwysig gan eu bod yn colli cyfleoedd bywyd ac ar nifer o swyddi llewyrchus.

"Ond yn fwy eang mae'n cyfyngu ar y dalent sydd ar gael i'r gwyddorau a busnesau, ac mae felly'n cyfyngu ar gyfoeth economaidd Cymru i'r dyfodol."