大象传媒

Degawd o drydar

  • Cyhoeddwyd
Trydar Cymraeg

Mae gwefan boblogaidd Twitter yn dathlu 10 oed ar 21 Mawrth, ond faint o help ydy'r rhwydwaith gymdeithasol i hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar-lein?

Dr Llion Jones yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y ganolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor:

"Does gen i ddim tystiolaeth wyddonol ar hyn, ond mae'n debygol fod mwy yn ysgrifennu yn Gymraeg yn rheolaidd yn sgil datblygiad y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae datblygiad llwyfannau fel Twitter, ac yn fwy diweddar Snapchat, yn golygu fod pobol na fyddai yn y gorffennol wedi gwneud hynny fel rheol, r诺an yn ysgrifennu yn Gymraeg.

"Mae'r ffaith fod y cyfryngau hyn mor hawdd i'w defnyddio yn help hefyd.

"Yn achos rhywbeth fel 'C芒n i Gymru', byddai'n bosib dadlau fod y defnydd o Twitter wedi adfer y traddodiad o wylio rhywbeth yn dorfol ac ymateb iddo mewn cyd-destun cymdeithasol."

Mae'r Gymraeg yn fyw ac yn iach ac yn dal ei thir ar Twitter felly, ond pwy oedd oedd y Cymro cyntaf i drydar?

Wedi i ymchwilwyr brwdfrydig dyrchio'n 么l i'r archif electronig i fis Mawrth 2007, mae'n debyg bod yr anrhydedd yn mynd i Mei Gwilym, datblygwr gwe llawrydd o'r Felinheli.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mei Gwilym: Y trydarwr Cymraeg cyntaf... am gyfnod

Ond nid dyma'r neges gyntaf ar Twitter i'r Gymraeg ymddangos ynddi, yn 么l Rhodri ap Dyfrig, Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol 大象传媒 Cymru:

"Y trydar cyntaf alla'i ddod ar ei draws yw hwn gan rywun o'r enw Mr Jason wnaeth drydar neges Nadolig Llawen aml-ieithol ar Ragfyr 20, 2006... ond y Gymraeg sydd yn gyntaf. Dim ond 38 neges wnaeth o'i thrydar erioed, a honna oedd ei neges olaf ef... neu hi!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y neges Gymraeg gyntaf?

Ond tua pha ganran o'r boblogaeth sydd yn defnyddio'r Gymraeg ar Twitter? Yn 么l ymchwil gan gwmni Beaufort ar ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywyd bob dydd gafodd ei chyhoeddi yn 2013, roedd ychydig dros un o bob chwech o siaradwyr Cymraeg (16%) yn defnyddio Twitter yn rheolaidd, ac o'r rhain mae 8% yn ei ddefnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

Ond roedd y canran rhwng 16 a 24 oed oedd yn defnyddio Twitter yn llawer uwch, rhyw 64% gyda 31% o'r rhain yn naill ai darllen neu ysgrifennu tweet Cymraeg yn ystod wythnos gyffredin.

Ar yr wyneb, mae llawer wedi digalonni gyda'r ystadegau yma, ond mae Dr Llion Jones yn awyddus i gynnig cyd-destun mwy positif,

"Pan oeddwn i'n iau, dwi'n rhyw feddwl mai traethodau ysgol ac ambell sylw ar gerdyn pen-blwydd oedd swm a sylwedd fy Nghymraeg ysgrifenedig. Mae pobol ifanc heddiw wrthi drwy'r amser yn ysgrifennu sylwadau ar hyn a'r llall.

"Mae'n wir mai pytiau byr sy'n cael eu hysgrifennu yn aml, ond maen nhw'n cael eu hysgrifennu mewn cyd-destunau naturiol, bob dydd.

"Mae rhywun yn ymwybodol fod technoleg yn cael ei feio'n aml am greu byd unffurf ond mae'n werth cofio am ochr arall y geiniog a'i bod hi'n bosib i dechnoleg greu rhwydweithiau lle gall ieithoedd llai gael eu defnyddio."

Pen-blwydd hapus Twitter a chofiwch ddilyn cyfrif !

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol