大象传媒

O ddifri am y Gymraeg yn Llundain

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actores Isy Suttie yn ymddangos yn y gyfres newydd o Damned ar Channel 4 ar nos Fawrth 27 Medi. Yn adnabyddus hefyd am ei stand-up ac am sgrifennu ar gyfer Radio 4 a'r llyfr The Actual One, mae Isy - sy'n bartner i'r digrifwr o Gaerfyrddin, Elis James, ac yn fam i Beti - yn dysgu Cymraeg yn Llundain.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda hi am yr her o ddysgu Cymraeg:

Dal i ddysgu

"Dwi ddim yn meddwl bod y Gymraeg yn iaith ti'n stopio dysgu i ddweud y gwir. Dwi'n dal i ddysgu a dwi ddim yn teimlo fyddai byth yn cyrraedd pwynt lle fyddai'n gwybod yr holl Gymraeg dwi angen ei wybod, ond mae'n broses o ddysgu a darganfod."

Mae Isy Suttie'n dod o Matlock, Sir Derby yn wreiddiol, ac ers cyfarfod 芒'i phartner Elis James tua chwe mlynedd yn 么l, a gwneud ffrindiau 芒 'sgrifenwyr eraill o Gymru yn Llundain, mae wedi dod i garu'r iaith Gymraeg a phenderfynu dysgu.

"Dwi 'di bod yn defnyddio'r ap ar fy ff么n, felly dwi'n gallu dysgu wrth dacluso'r t欧 neu goginio, dyma'r ffordd orau dwi wedi ffeindio. Mae wedi newid popeth i fi, mae'n ffordd bositif o ddysgu'r iaith," meddai.

Ffynhonnell y llun, CHANNEL 4
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Isy Suttie yn chwarae rhan Nat yn y gomedi sefyllfa Damned

"Mae dau ffrind i fi, Ben Partridge a Gareth Gwynn, yn 'sgrifenwyr ac maen nhw'n dod o Gymru ond dydyn nhw ddim yn gallu siarad Cymraeg. Nhw wnaeth awgrymu'r ap i fi ac o'u herwydd nhw wnes i ddechre ei ddefnyddio. Roeddwn i wedi bod i ddosbarthiadau a defnyddio llyfrau, ond mae gwrando ar y Gymraeg a'i ddefnyddio yn dod 芒 fe'n fyw."

Gyda'i phartner, y digrifwr Elis James, yn Gymro Cymraeg, mae digon o gyfle i Isy i ymarfer yr iaith yn y t欧, yn enwedig ers i'w merch fach Beti gael ei geni ddeunaw mis yn 么l.

"Mae Elis a fi'n siarad Cymraeg yn y t欧," meddai Isy. "Mae gyda ni ambell i air Cymraeg fyddwn ni wastad yn eu defnyddio fel 'bara', fyddwn ni byth yn dweud 'bread', dwi'n gofyn 'wyt ti moyn t锚?'... ac mae hynny jyst wedi gweithio ei ffordd i mewn i'r cartref.

"Bydd Beti'n tyfu fyny yn clywed cymysgedd o Gymraeg a Saesneg achos mae'r ddau ohonon ni'n siarad y ddwy iaith gyda hi. Ond mae fy Nghymraeg i'n anghywir, felly mae well iddi wrando ar Elis!"

Pan mae gwaith yn caniat脿u, mae hi ac Elis yn mynd 芒 Beti i gr诺p mudiad meithrin, 'Dreigiau Bach', sy'n agos i'w cartref yn Llundain, ond mae'n cyfadde' ei bod hi'n teimlo'n fwy hyderus yn siarad yr iaith yn Llundain, nag yng ngorllewin Cymru.

"I fod yn onest, dwi'n teimlo'n fwy nerfus yn siarad Cymraeg yng Nghaerfyrddin na Llundain, achos dwi'n poeni byddai'n cael rhywbeth yn anghywir. Es i mewn i siop dros y Nadolig ar ben fy hun, a gofynnodd y ferch i fi yn y Gymraeg os oeddwn i moyn bag. Deallais i'r cwestiwn a dweud "na", ond wedyn des i allan o'r siop yn meddwl tybed a ddylen i fod wedi dweud "nage" neu rhywbeth arall! Oedd hwnna'n gam mawr i fi!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elis ac Isy

Bywyd teuluol

Eleni, mae Isy wedi treulio llawer o'i hamser yn 'sgrifennu a hyrwyddo ei llyfr newydd, yn ogystal ag actio rhan Nat yn y gyfres Damned ar Channel 4, felly sut mae'r p芒r prysur yn ymdopi 芒 bywyd teuluol, gwaith a theithio?

"'Dyn ni'n trafod gwaith o flaen llaw, ac yn gwneud iddo fe weithio rhyngddon ni'n dau gymaint ag y gallwn ni. 'Dwi'n gweithio tipyn fwy yn ystod y dydd, a llai gyda'r nos erbyn hyn.

"Mae Elis a fi'n edrych ar 么l Beti hanner a hanner, ac mae' hi'n mynd at ofalwr plant am dri diwrnod. Dydy e ddim bob amser yn hawdd, mae'n flinedig ond allwn ni ddim dychmygu bywyd hebddi. Dwi ddim yn teimlo fy mod wedi newid fel person, rhywbeth o'n i'n meddwl 'falle byddai'n digwydd, dwi dal yn 'fi' ond gyda ychwanegiad lyfli i fy mywyd.

"Gan bod Elis a fi'n edrych ar ei h么l hi hanner a hanner, mae'n cael magwraeth llawn. Ond mae Elis yn fwy tebygol o rowlio ar y llawr gyda hi a pethau fel 'na, na fi!"

Ffynhonnell y llun, Ed Moore
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Isy yn wyneb cyfarwydd yng Ng诺yl Gomedi Machynlleth

Mae Isy yn gobeithio y bydd ei Chymraeg yn gwella ac y bydd hi'n dod yn fwy hyderus yn yr iaith dros y blynyddoedd i ddod.

"Rwy'n gobeithio bydda i a Beti yn parhau i ddysgu gyda'n gilydd fel y gallwn ni gyd siarad Cymraeg a bydd hi jyst yn iaith arall y byddwn ni'n gallu siarad."