大象传媒

Gweithwyr Amgueddfa Cymru i streicio

  • Cyhoeddwyd
Big Pit MuseumFfynhonnell y llun, Chris Andrews/Geograph

Bydd y cyntaf o gyfres o streiciau dros 糯yl y Pasg gan rai o staff Amgueddfa Cymru yn dechrau ar ddydd Gwener y Groglith.

Mae aelodau o undeb y PCS (Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol) yn gweithredu'n ddiwydiannol ar safleoedd yr amgueddfa ar draws Cymru mewn anghydfod dros gynlluniau i atal taliadau ychwanegol i bobl sy'n gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

Bydd y gweithredu'n dechrau ddydd Gwener yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen.

Fe ddywed Amgueddfa Cymru eu bod yn wynebu toriad o 4.7% yn y grant y maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, ac nad oedd modd parhau gyda'r taliadau ar eu ffurf bresennol.

'Anghydfod'

Dywedodd ysgrifennydd y PCS, Shavanah Taj: "Mae'r anghydfod yma wedi rhygnu 'mlaen ers dwy flynedd, ac mae ysbryd staff ar ei isaf.

"Rydym yn deall bod cyllideb yr amgueddfa wedi cael ei chwtogi, ond nid ydym yn derbyn mai staff blaen t欧 - sef y rhai ar y cyflogau isaf yn y sefydliad - ddylai wneud yr aberth fwyaf drwy golli eu t芒l penwythnos."

Ddydd Mawrth dywedodd Amgueddfa Cymru bod yr undeb wedi torri'u gair i gynnal pleidlais ymhlith aelodau dros gynnig datrysiad newydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr amgueddfa: "Mae datrys yr anghydfod yma nawr yn fater o frys oherwydd pwysau cwtogi'r gyllideb. Does dim dewis gennym felly ond mynd ymlaen i ymgynghori gydag unigolion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhai o'r staff yn protestio ger Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe ym mis Awst y llynedd

Y Streiciau

  • Bydd Big Pit Amgueddfa Cymru, Blaenafon, yn agor am 13:00 ond ni fydd teithiau o dan ddaear ar gael ddydd Gwener na dydd Llun;

  • Bydd Amgueddfa Wlan Cymru, Llandysul, ar gau ddydd Sadwrn;

  • Bydd galer茂au Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar gau ddydd Sadwrn;

  • Bydd rhai o adeiladau'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan ger Caerdydd ar gau ddydd Sul;

  • Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ar gau ddydd Sul;

  • Yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd bydd arddangosfa 'Trysorau: Anturiaethau mewn Archeoleg' a rhai galer茂au ar gau ddydd Llun.