大象传媒

Mesur y milltiroedd

  • Cyhoeddwyd
hanner mawarthomn

Pob hwyl i bawb sy'n rhedeg yn ar 2 Hydref. Erbyn hyn mae pob math o dechnoleg ar gael i helpu unigolion i gyrraedd y llinell derfyn.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar sut mae technoleg wedi diffinio diwylliant rhedeg a seiclo yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn 么l Matt Ward, perchennog siop redeg Run: Coed y Brenin a'r dyn fydd yn cyfarch y rhedwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y llinell derfyn yn Hanner Marathon Caerdydd "mae technoleg fel oriawr GPS a Strava wedi newid y tirwedd yn y maes rhedeg. Yn y gorffennol, dyfalu pellter a gwelliannau yn eich rhedeg oeddech chi'n eithaf aml. Rwan mae'r adborth gall y rhedwr gael o oriawr yn ystod ac ar 么l eu rhediad yn anhygoel."

Ond sut effaith mae hyn wedi ei gael ar y rhedwyr, y seiclwyr a'r diwylliant chwaraeon?

Cymhelliant, clod, a chymuned

Mae Phil Stead yn feiciwr brwd a'n awdur y llyfr Ar Dy Feic. Mae hefyd wedi cael modd i fyw, yn llythrennol, gyda'r dechnoleg yma gan "newid ei fywyd" trwy ei helpu i wella o salwch difrifol. Mae ei wraig Mair hefyd wedi defnyddio ap Couch to 5k er mwyn dechrau rhedeg, ac mae hi erbyn hyn yn rhedeg rasus hanner marathon.

"'Nes i ddechrau defnyddio Map My Ride i wneud map o daith gyfan, ond yn fuan iawn symudais i Strava, sydd yn gadael i ddefnyddiwr gymharu eu hamseroedd ar segments, sef rhannau penodol o'r ffordd, a'u gosod ar sg么rfwrdd gyda defnyddwyr eraill."

Meddai Phil, "Ma'n gwneud i ti fynd allan am fod pobl eraill yn mynd allan, ond cyn bo hir ti'n cymharu dy hun efo pobl eraill, cael y kudos gan feicwyr eraill ac mae'r gwerthfawrogiad yna'n beth mawr i dy annog i fynd allan.

"Ond yn sydyn iawn ti'n ffeindio dy hun yn rhan o gymuned, a'n dod i adnabod pobl trwy Strava. Mae'n beth cymdeithasol iawn.

"Mae hefyd yn ffordd i osod targedau i ti dy hunan a does dim dwywaith es i allan dim ond er mwyn gwella'n stats Strava. Mae nhw'n dweud, os dio ddim ar Strava, dio ddim yn cyfri - wel dwi'n un o rheina de! Does dim dwywaith bod Strava wedi newid fy mywyd i, a ngwneud i'n fwy iach nac oeddwn i."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fyddech chi'n nabod Phil Stead yn seiclo heibio i chi ar strydoedd Y Felinheli?

Mapio reids: m锚l i gyd?

Mae'n si诺r bod sawl un sydd ar Facebook wedi diflasu gweld broliant rhai defnyddwyr o'u rhediad diweddaraf, ond oes yna ochr negyddol fwy difrifol i'r newid mawr hwn, o ran diwylliant yn ogystal 芒 diogelwch?

"Dwi'n cofio dod ar draws segment ar Strava lle roedd o'n mynd lawr allt yn sydyn iawn ac yn dod allan ar brif l么n ac o'n i'n meddwl, waw, os mae pobl yn trio curo'r segment yma mae'n nhw'n mynd i gyrraedd canol y l么n.

"Mae 'na ddigwyddiadau wedi bod lle mae pobl yn trio curo segments ar l么n gyhoeddus wedi marw, ond mae Strava wedi trio dod 芒 phethau mewn i drio osgoi hynny gymaint 芒 fedran nhw.

"Mae rhai sy'n meddwl bod Strava wedi tynnu'r elfen gymdeithasol allan o reidiau clwb, lle mae pawb yn trio cystadlu trwy'r amser".

Yn 么l Matt, "Dyw'r pethau yma ddim ar gyfer pawb, wrth gwrs, a dwi'n gwybod am ddigon o redwyr sy'n dal jyst yn mynd allan a rhedeg am eu bod yn caru'r gamp ac am yr ymdeimlad o les maen nhw'n gael, heb unrhyw wylio dyfeisiau. Weithiau ma' gadael eich oriawr a ff么n yn y cartref yn eithaf rhyddhad!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwybrau poblogaidd Caerdydd

Dyfodol defnydd y data?

Un ffordd annisgwyl y mae rhai yn rhagweld defnydd y mapio hyn yw maes polisi. Mae mapio miliynau o rediadau a reidiau'n golygu bod llawer iawn o wybodaeth am lle a sut mae pobl yn mynd.

Casglodd Strava wybodaeth am dros 170 miliwn rhediad a reid beic yn ystod 2015 ac mae'n bosib gweld . Gallai hyn gynnig posibiliadau mawr o ran polisi diogelwch ar ffyrdd prysur, a phenderfyniadau am leoli isadeiledd fel y rhwydwaith feicio genedlaethol.

Digwyddodd hyn oll mewn cwta 10 mlynedd, ond yn 么l Matt mae mwy i ddod:

"Mae technoleg yn mynd a dod, felly a fyddwn ni'n obsesu 芒 tech rhedeg yn y dyfodol? Fy marn i yw bod byd technoleg chwaraeon GPS a Strava yn dal yn eu dyddiau cynnar a bydd y dyfodol yn gyffrous!"

Ffynhonnell y llun, Strava
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd 'na ragor o lwybrau gleision ar y map hwn yn y dyfodol?