Sion a Si芒n, yr arloeswyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae wedi newid ei delwedd a'i chyflwynwyr dros y blynyddoedd ond dyw elfennau gwreiddiol y rhaglen Sion a Si芒n heb newid ers dros hanner canrif.
Mae cyfres newydd o'r cwis yn dechrau ar , ac er bod y cwis poblogaidd wedi ei ddarlledu ar ddwsinau o sianeli dros y byd, y gynulleidfa Gymraeg oedd y cyntaf i werthfawrogi'r gyfres ar y teledu.
Cafodd Cymru Fyw gefndir y dyddiau arloesol rheiny dros 50 mlynedd yn 么l:
Sianel i Gymru
Yn 1964 roedd TWW wedi ei sefydlu fel gorsaf deledu annibynnol Cymru, yn cynhyrchu rhaglenni newyddion a chwisiau yn bennaf o dan reolaeth y pennaeth rhaglenni Wyn Roberts (y diweddar Arglwydd Roberts o Gonwy).
Roedd Euryn Ogwen Williams yn fyfyriwr tlawd yn gadael y coleg ym Mangor a chafodd gynnig swydd yn TWW.
"Roedd Wyn Roberts yn ddarlledwr greddfol oedd yn deall pwysigrwydd rhaglenni newyddion a dogfen ond hefyd yn parchu a hybu rhaglenni poblogaidd adloniant ysgafn," meddai.
"Ar ei law dde roedd Dorothy Williams, oedd yn gweithredu fel pennaeth rhaglenni Cymraeg, ac roedd hi'n cydweithio'n agos gyda Wyn Roberts i geisio creu amrywiaeth darlledu eang trwy gyfrwng y Gymraeg."
Gweledigaeth g诺r o Ganada oedd 'Sion a Si芒n' meddai Euryn:
"Roedd Roy Ward Dickson yn arbenigo mewn datblygu a gwerthu syniadau rhaglenni newydd; cwisiau yn bennaf felly dyfeisiodd TWW sustem effeithiol iawn o roi'r cyfle iddo brofi nifer o'r rhaglenni trwy brynu hawliau Cymraeg y fformat yn fyd eang.
"Byddai TWW wedyn yn cynhyrchu cyfres neu ddwy o'r rhaglen yn Gymraeg, ac os yn llwyddiannus, rhoi platfform i ddefnyddio'r hawliau Prydeinig ar gyfer y fersiwn Saesneg.
"Dyma sut y daeth 'Sion a Si芒n' i'r sgrin yn y Gymraeg yn gyntaf cyn cael ei datblygu'n nes ymlaen i 'Mr & Mrs' a'i gwerthu dros y byd. Roedd hi ar y pryd yn ffordd ymarferol a chymarol rad o beilota rhaglen deledu."
Y cyflwynwyr arloesol
Cyflwynydd cyntaf y rhaglen oedd cigydd lliwgar o Ystalyfera, Dewi Richards. Yn ei gynorthwyo roedd Meriel Davies, gwraig y neidiwr hir Olympaidd Lynn Davies. Roedd y gyfres gyntaf yn llwyddiant ysgubol.
Athrawes oedd Meriel Davies a doedd hi ddim yn bosib iddi hi gyflwyno'r ail gyfres oedd yn teithio o amgylch neuaddau Cymru, felly dyma gyfle i Jenny Ogwen, ysgrifenyddes ifanc a oedd y gweithio yn Llundain ar y pryd:
"Gethon ni lot o sbort ar y daith a wedd pethe'n lot fwy syml bryd hynny na nawr. Y jacpot i'r cwpwl buddugol fyddai can punt a fi'n cofio cael lifft gyda'r ysgrifenyddes Shan Davies yn ei hen A35 a mynd o le i le gydag amlen yn llawn arian yn fy ngh么l i dalu gwobr i bobl.
"Fi'n cofio Eirwen Davies (aeth ymlaen i gyflwyno'r Dydd - y cyflwynydd newyddion benywaidd cyntaf ym Mhrydain) ac Elinor Mathias yn gorfod chwilio am barau i gymryd rhan... jobyn anodd ar y dechrau pan oedd pawb yn rhy shei i fod ar y teledu a ddim yn gwybod yn iawn beth i ddisgwyl."
Ta Ta TWW
Yn 1968 ddaeth newid ar fyd allai wedi bod yn ddiwedd cynnar ar y rhaglen. Collodd TWW y drwydded i ddarlledu yng Nghymru i gwmni Harlech.
Ond llwyddodd Sion a Si芒n i oroesi gyda chyflwynydd newydd i newid delwedd y rhaglen. Roedd Ifor Bowen Griffith yn faer Caernarfon ond doedd y fformat ddim yn siwtio I.B. Felly cafodd yr awennau eu rhoi yn nwylo ffermwr ifanc o Lanilar oedd hefyd yn canu rhyw dipyn.
Ac felly, rhwng 1971 a 1987, dyma ddechrau oes aur Sion a Si芒n. Er bod llawer o'r farn mai Dai Jones a Jenny Ogwen oedd hoelion wyth y rhaglen, nid felly oedd hi yn 么l Jen:
"Roedd HTV yn newid menywod Dai drwy'r amser. Ro'dd e 'da Sarah Tudor, Mari Emlyn, Rosalind Lloyd, Mair Rowlands... o'n nhw'n newid drwy'r amser. Ond yn y diwedd 'naethon nhw fennu lan gyda fi... fel rhyw fath o boomerang."
Ac mae'r rhaglen yn dal yma. O Dai Jones a Jenny, trwy Ieuan Rhys a Gillian Elisa ac i'r presennol gyda Stifyn Pari a Heledd Cynwal.
Mae Sion a Si芒n yma o hyd.
Rhaglen deledu sydd wedi bodoli yn y Gymraeg bron ers dechrau darlledu yn yr iaith ac yn sicr drwy gydol pinaclau darlledu Cymraeg. Er bod y fformat yn hen ffasiwn, mae'r gyfres yn dal i fod yn boblogaidd.
Mae Dai Jones wedi canu'r hen gan 'Pwy fydd yma mewn can mlynedd?' mewn neuaddau ar hyd a lled Cymru. Pwy fyddai'n mentro dweud na fydd Sion a Si芒n yn cyrraedd y garreg filltir honno hefyd?