大象传媒

Ateb y Galw: Llinos Lee

  • Cyhoeddwyd
llinos lee

Y cyflwynydd Llinos Lee sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Angharad Mair.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio cael T欧 Bach Twt gan Si么n Corn pan o'n i tua tair oed. Roedd Nain a Taid lawr yn aros gyda ni dros y Nadolig a nes i orfodi Taid i eistedd yn y t欧 gyda fi am oriau a bwyta ei ginio Nadolig ar fwrdd plastig Victoria Plum. Druan a fe!

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Matt Goss o Bros a phob aelod o New Kids on the Block! Merch yr 80au go iawn!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Tra'n ymarfer rhaglen o 'Uned 5' nes i anghofio fy mod i'n gwisgo meicroffon personol a bod pawb yn gallu clywed pob dim o'n i'n ddweud a gwneud - nes i ddim rhybuddio y dyn sain cyn mynd i'r t欧 bach!!! Does dim angen i mi ddweud mwy!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Penwythnos diwethaf. Roedd Mam a Dad yn dathlu eu priodas Ruddem ac fe wnes i a fy mrawd greu fideo o hen luniau y teulu dros y blynyddoedd i nodi'r achlysur arbennig yma. Roedd pawb yn crio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oes 'na atebion call i'w gael gan y ci?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Sawl un dwi'n si诺r ond y gwaethaf yw siopa! Dwi wrth fy modd yn prynu dillad, 'sgidiau, bagiau, unrhywbeth i ddweud y gwir. Rhaid i mi gael gwisg newydd ar gyfer bob achlysur - unrhyw esgus i fynd i siopa.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy nhre' enedigol Y Barri. Dwi'n hoffi bod yn agos at y m么r ac mae'n lle sy'n llawn atgofion hapus iawn o fy mhlentyndod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd noson fy mhriodas yn arbennig ac yn aros yn y cof ond hefyd y noson gafodd Guto Prys, fy mab, ei eni. Swreal ond anhygoel ar yr un pryd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hapus, ffyddlon, sensitif.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sut brofiad fydde' cael gwisgo'n grand a gwastraffu siamp锚n da?

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi wrth fy modd gyda llyfrau Jodi Picoult a Cecelia Ahern. Yr un 'nath 'neud i fi grio yn gyhoeddus tra ar fy ngwyliau oedd 'P.S. I Love You'. Dyw'r ffilm ddim cystal.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Ydy bagiau yn cyfri? Os felly, fy handbag enfawr Michael Kors. Fel Mam, dwi'n gwneud yn si诺r bod gen i ddigon o bethe i ddiddanu Guto ac os dwi allan yn ffilmio eitemau 'Heno' mae 'na wastad losin neu ryw fath o snac i'r criw i'w cadw nhw'n hapus!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'The Revenant'. Mae Leonardo DiCaprio yn anhygoel yn y ffilm yma. Llawn haeddu ei Oscar.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Nes i holi fy ng诺r am ateb i'r cwestiwn yma a wedodd e 'Carrie Bradshaw - mae'r ffilm allan yn barod!'

Dy hoff albwm?

Mae gen i gasgliad enfawr o CDs sioeau cerdd, mae'n anodd dewis un, ond yr un dwi'n chwarae mwya ydy 'West Side Story'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - dwi wastad yn mynd am bysgodyn.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Dwi ddim yn meddwl fyswn i eisiau bod yn rhywun arall, mae gen i 诺r a mab anhygoel, job dwi'n garu, ond os fyse rhaid dewis yna Kate Middleton er mwyn cael rhywun i olchi dillad, glanhau a newid napis drosta'i. Bydde'r ffrogiau a'r dillad smart yn fonws hefyd!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?

Owain Gwynedd

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Llinos yn un o gyflwynwyr 'Uned 5'