Roc drwm?

Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones

Disgrifiad o'r llun, Richard Wyn Jones yn drymio i'r band Siencyn Trempyn yn 么l yn yr 80au hwyr

Nhw yw aelodau'r band sydd yn y cefn yn gwneud y gwaith caled i gyd. Wel, dyna maen nhw'n ei ddweud. Does neb yn eu hadnabod, ac yn wir, yn aml, maen nhw'n destun dirmyg a gwawd.

I unioni'r cam felly, mae Cymru Fyw wedi bod yn holi tri drymiwr sydd wedi datblygu i fod yn aelodau parchus o gymdeithas.

Mae hi'n anodd credu, ond dyna ni!

Gweithred symbalaidd?

Mae Richard Wyn Jones bellach yn academydd a sylwebydd gwleidyddol amlwg. Mae ganddo atgofion melys o ddrymio i nifer o fandiau pan yn llanc ifanc.

"Roedd taith i Ogledd Iwerddon (cyn y broses heddwch) efo Steve Eaves yn brofiad a hanner. Hefyd gigs byw anhygoel efo Arfer Anfad a Ummh. Ond, o orfod dewis un uchafbwynt, dwi'n falch iawn o'r drymio ar y trac Tywydd Garw ar albym Croendenau gan Steve Eaves. Dwi'n dal i gael gwefr fach pan dwi'n ei chlywed!

"O ran isafbwynt, ges i gyfnod o gigio rheolaidd pan oeddwn i heb gar. Roedd hynny'n golygu cludo'r drymiau yng ngh卯st bws y Traws Cambria. Roedd y gyrrwyr yn oddefgar iawn, chwarae teg iddyn nhw."

Gwrando ar Sosban

Disgrifiad o'r llun, Rhys Powys (yn y canol gyda'r crys rygbi streipiog) yn y band Newyddion

Erbyn hyn mae Rhys Powys yn gwneud eu fywoliaeth trwy gyfarwyddo cyfresi teledu poblogaidd fel Con Passionate, Teulu, Y Gwyll, a 35 Diwrnod ac yn wir mae wedi codi ei orwelion a dysgu canu'r git芒r. Mae'r neges yn un obeithiol i holl ddrymwyr y byd felly.

"Does gen i ddim drymiau erbyn hyn a dydw i ddim wedi taro'r drymiau ers blynyddoedd," meddai.

"Rwy'n chwarae git芒r rhyw ben bob dydd ac mae hynny yn difa straen yn well na dim.

"Dwi'n cofio'r gig 'go iawn' cyntaf i fi ei chwarae gyda'r band Syr Goronwy, yn y Top Rank, 'Steddfod Caerdydd 1978. Gig gyda PA mawr, goleuadau a chynulleidfa - a chael benthyg cit llawn gyda meicroff么ns ar bob drwm. Roedd hyn yn gyffrous iawn ar 么l bod yn chwarae gigs yn yr ysgol ac yn Aelwyd yr Urdd, Conway Road.

"Roedd nifer o uchafbwyntiau eraill i ngyrfa fel drymiwr. Fe fydden i'n cael gwahoddiad funud olaf, weithiau, i chwarae gyda band, os nad oedd eu drymiwr arferol yno. Roedd chwarae, heb ymarfer, wastad yn sialens - ond fe fydden i'n gwybod y rhan fwyaf o'r caneuon trwy fod wedi eu clywed ar raglen Sosban! Y gigs mwyaf cofiadwy i fi oedd chwarae'n fyw gyda 'Chwarter i Un' mewn clybiau bach, chwyslyd, swnllyd - hollol wefreiddiol."

Disgrifiad o'r llun, Owain Wyn Evans yn ei 'stiwdio' ('ystafell wely!)

Mae'r tywydd braidd yn drymaidd!

Mae'n anodd credu fod y dyn tywydd neis 'na Owain Wyn Evans 芒'r gallu i guro drymiau fel dyn gwyllt, ond yn wir, dyma mae'n dal i wneud yn ei amser sb芒r.

"Ddechreues i chware'r drymiau pan o'n i tua naw oed. Oedd y teulu yn eitha' cerddorol," meddai.

"Roedd dad yn chware'r dryms pan oedd e'n iau ac roedd mam yn gantores gyda'r gr诺p gwerin 'Y Tylwyth Teg', felly roedd canu, offerynnau a cherddoriaeth wastad i'w clywed yn y t欧 ac yn t欧 Nanna yng Nghapel Hendre!

"Fi 'di bod yn eitha' lwcus i chware mewn lot o lefydd eitha c诺l. Pan o'n i tua 14 wnes i chware yn Undeb y Myfyrwyr Coleg y Drindod - i neuadd llawn myfyrwyr meddw! Ro'n i mewn band gyda cwpwl o fois o'r coleg (ro'n nhw lot yn h欧n 'na fi!) ond oedd e'n lot o hwyl.

"Fi'n cofio mynd i'r ysgol a methu 'sgrifennu achos bod fy nwylo yn gwaedu. Pan o'n i gyda'r Overtones naethon ni lot o stwff ar S4C a gyda Radio Cymru, lot o raglenni teledu a gigs byw."

Dyw'r Athro Richard Wyn Jones ddim yn drymio ar hyn o bryd.

Meddai: "Y band diwethaf i mi chwarae ynddo oedd gr诺p yn Norwy oedd yn chwarae covers heavy metal. Dwi'n meddwl fod hynna'n lle da i ddod a'm gyrfa gerddorol i ben!"

Dros ben llestri

Cwestiwn pwysig yw ydy drymwyr yn cael eu geni neu eu creu?

Mae Rhys Powys yn bendant ei farn: "Pan oeddwn i'n blentyn fe fyddwn i'n clywed caneuon yn fy mhen a chwarae rhythmau o hyd - gyda chyllell a fforc wrth y bwrdd bwyd fel arfer.

"Fe brynes i b芒r o ffyn drymio ymhell cyn cael drymiau ac fe fyddwn yn ymarfer trwy chwarae ar glustogau neu ar ddodrefn rownd y t欧.

"Roedd y cit cyntaf ges i wedi ei osod yn yr atig, yn nho y t欧, gyda lliain sychu llestri dros bob drwm i ddifa'r s诺n. Roedd y teulu'n falch, dwi'n meddwl, mod i wedi stopio taro llestri a dodrefn!"

Disgrifiad o'r llun, "Nid fi yn drymio sy' 'di creu'r storm 'ma!"

Llestri gweigion?

Felly, gan ein bod ni mewn cwmni mor freintiedig o dalentog, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn sydd yn aml yn cael ei ofyn am ddrymwyr. Ydyn nhw'n gerddorion go iawn, neu'n bobl sy'n hongian rownd gyda cherddorion?

Mae'r atebion yn weddol unfrydol.

"Fy arwyr cynnar, o ran drymio, oedd Stewart Copeland (The Police) a Topper Headon (The Clash) - cerddorion!" yw ymateb chwim Rhys Powys.

"Rhaid i'r drymiwr fod yn gerddor cadarn, cyffrous ac ysbrydoledig neu bydd gweddill y band yn mynd ar chw芒l yn fuan iawn!"

Mae Owain Wyn Evans yn cytuno: "Ma' drymwyr yn gerddorion! Sai'n gallu darllen cerddoriaeth, dwi'n gwrando ar gerddoriaeth ac yna'n cofio be sy'n dod nesa. Dyna'r ffordd fi'n gweithio."

Richard Wyn Jones sy'n cael y gair olaf: "Paid 芒 bod mor amharchus y diawl!"

Rwy'n credu ei fod e'n jocan. Dych chi byth yn gallu bod yn siwr gyda'r drymwyr 'ma.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Richard Wyn Jones yn addo peidio dod a'i git drymio i'r stiwdio pan fydd yn dadansoddi canlyniadau Etholiad y Cynulliad