大象传媒

Cwest Hillsborough: 'Lladd anghyfreithlon'

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm

Mae'r rheithgor yn y cwest i farwolaethau 96 o gefnogwyr t卯m p锚l-droed Lerpwl yn Hillsborough yn 1989 wedi casglu eu bod wedi'u lladd yn anghyfreithlon.

Bu farw dau o Gymru yn y digwyddiad y diwrnod hwnnw - John McBrien o Dreffynnon a David Brown (oedd yn cael ei adnabod fel Steve Brown) o Holt, ger Wrecsam.

Daeth y rheithgor i'r casgliad bod methiannau'r heddlu wedi arwain at y marwolaethau yn y stadiwm, ac nid oedd ymddygiad cefnogwyr Lerpwl wedi cyfrannu at y sefyllfa beryglus ger y giatiau mynedfa.

Cofleidiodd aelodau o deuluoedd y rhai fu farw ei gilydd pan gyhoeddwyd y dyfarniad bod y 96 cefnogwr wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Oedi

Roedd yr heddlu wedi oedi cyn cyhoeddi eu bod yn delio gyda digwyddiad o bwys y diwrnod hwnnw, ac felly bu oedi yn ymateb y gwasanaethau brys yn cynnwys y gwasanaeth ambiwlans

Fe ddaeth y rheithgor i'r casgliad hefyd bod nam ar y stadiwm oedd wedi cyfranu at y trychineb, a bod camgymeriad yn nhystysgrif diogelwch Stadiwm Hillsborough.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud y byddan nhw yn ystyried mewn amser os dylid cymryd camau cyfreithiol mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

Disgrifiad,

Y cynhyrchydd Dylan Llywelyn a'r cyflwynydd Dylan Jones sy'n rhannu eu hatgofion o Hillsborough

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau teuluoedd y rhai fu farw yn dilyn canlyniad y cwest

Atgofion

Wedi 27 o flynyddoedd ers y digwyddiad mae'r atgofion yn dal yn fyw yn y cof i rhai o'r cefnogwyr oedd yno.

Rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA oedd hi rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ac roedd 24,000 o gefnogwyr Lerpwl wedi teithio i weld y g锚m yn Sheffield.

Ond o fewn ychydig funudau cafodd y g锚m ei chanslo ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod rhywbeth mawr o'i le.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Williams yn teimlo yn flin bod cefnogwyr Lerpwl wedi cael y bai ar 么l y drychineb

Un oedd yn y dorf y dydd Sadwrn hwnnw oedd Mark Williams o Borthmadog. Roedd o wedi cefnogi Lerpwl ers ei fod yn fach ac yn sefyll yn ystod y g锚m yn ochr Leppings Lane lle y cafodd cefnogwyr eu lladd.

Mae'n cofio'r dorf yn gwthio ymlaen ac mi lwyddodd o i ddianc ac eistedd ar y cae p锚l droed.

"Dwi'n cofio rhei pobl yn cael eu cario ac yn cael eu helpu efo'r advertising boards yma. Ond pan oeddan ni allan o'r stadiwm... Dwi'n cofio cefnogwyr Lerpwl yn gwylltio, rhegi a ffraeo efo'r heddlu ac yn dweud pethe mawr. 'Bai chi ydy o, chi nath hyn' a petha.

"Gyrhaeddish i n么l yn y car, radio on a'r rhif cyntaf... bod 'na 16 wedi cael eu lladd... Ac fel o'n i yn dreifio adra oedd y rhif yma yn adeiladu, yn mynd yn fwy ac yn fwy."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau o deuluoedd y rhai fu farw yn ymateb i gasgliad y rheithgor ddydd Mawrth

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd na olygfeydd emosiynol tu allan i'r neuadd lle'r oedd y cwest yn cael ei gynnal yn Warrington