大象传媒

Pwerdy Aberddawan yn addasu oherwydd amodau 'heriol'

  • Cyhoeddwyd
AberddawanFfynhonnell y llun, Christopher Ware

Bydd pwerdy glo mwyaf Cymru yn newid y ffordd y mae'n gweithredu oherwydd amodau 'heriol' yn y farchnad.

Gall pwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg gynhyrchu 1555MW o drydan i'r Grid Cenedlaethol, digon i gyflenwi 3m o dai.

Ond o Ebrill 2017 ymlaen bydd y pwerdy yn canolbwyntio ar gynhyrchu trydan mewn cyfnodau penodol pan fydd galw amdano, fel yn ystod misoedd y gaeaf, yn 么l y cwmni sy'n berchen y safle, RWE.

Dywedodd RWE ei fod yn rhy gynnar i wybod pa effaith fydd hynny'n ei gael ar staff y safle. Mae'r pwerdy'n cyflogi bron i 600 o weithwyr ar hyn o bryd.

'Rol bwysig'

Mae'r cwmni yn dweud ei fod yn gweithio i ddiogelu dyfodol y safle. Y bwriad yw buddsoddi mewn technoleg newydd i alluogi i bob un o unedau cynhyrchu'r safle i ddefnyddio mwy o fathau o lo.

Mae'r cwmni'n honni y byddai hynny'n arwain at leihad o 30% mewn allyriadau nitrogen ocsid.

Daw'r cyhoeddiad wrth i Lys Cyfiawnder Ewrop ystyried achos yn erbyn Llywodraeth y DU. Bydd yr achos yn edrych ar honiadau bod gorsaf b诺er Aberddawan yn torri rheolau allyriadau.

Mae nitrogen ocsid sy'n cael ei ryddhau wrth losgi tanwydd yn gallu cael effaith ddifrifol ar iechyd pobl a'r amgylchedd, gan achosi salwch anadlu, rhoi asid yn y pridd ac mewn d诺r, a niweidio planhigion.

Gallai defnyddio gwahanol fathau o lo yn Aberddawan gael effaith ar y diwydiant glo yng Nghymru, gan fod Aberddawan yn gwsmer pwysig.

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr y safle, Richard Little: "Pan mae amodau'r farchnad yn anodd mae'n dangos gwaith caled ac ymrwymiad ein staff ein bod yn gallu addasu'r safle i sicrhau bod ganddo r么l bwysig yn y dyfodol."