大象传媒

Ateb y Galw: Elinor Jones

  • Cyhoeddwyd
elinor

Y cyflwynydd Elinor Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan John Hardy yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Pan ro'n i tua dwy a hanner odden ni'n byw mewn bwthyn yn Llanwrda. Roedd 'na law mawr ac roedd d诺r yn llifo i fewn i'r t欧 a daeth menyw a oedd yn byw ar draws yr hewl i fy achub i o'r soffa yn t欧 ni - hi odd y ddynes gynta' o dras Indiaidd i mi ei gweld erioed.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Cliff Richard. Es i weld y ffilm 'Summer Holiday' deirgwaith. Rhyw bedair mlynedd yn 么l es i gyda chriw o hen ffrindiau o'n nyddiau yn Ysgol Ramadeg Llandeilo i weld Cliff Richard and the Shadows yng Nghaerdydd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Tra'n ffilmio 'P'nawn Da' rhyw amser cinio wnes i gerdded mewn am fwyd wedi i mi fod yn y t欧 bach. Doedd fy sgert i ddim lawr yn iawn yn y cefn. Diolch Catrin am roi gwybod!

Ffynhonnell y llun, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elinor yn cyflwyno 'Y Dydd' gyda Huw Llywelyn Davies a Vaughan Hughes

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

'Sai'n cofio'n union ond bydda i'n crio tra'n clywed cerddoriaeth yn y cyweirnod lleddf. Hefyd fydda i'n crio wrth weld y wyrion yn canu yn capel neu'r ysgol, neu'n dawnsio gyda Dawnswyr Penrhyd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Osgoi gwneud gwaith papur diflas nes bo'r amser yn dod lle mae rhaid i mi ei wneud.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Garn Goch, Dyffryn Tywi. Mae hen gaer yno sy'n dyddio n么l i Oes yr Haearn, ond bellach mae'n wyrddni hardd. Yno hefyd mae carreg goffa Gwynfor Evans.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofio Gwynfor yn Garn Goch

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Wedi bod digon ffodus i gael sawl noson arbennig dros y blynyddoedd. Un ddiweddar sy'n y cof yw pan wnaeth Heledd (Cynwal, fy merch) drefnu noson i fi a chriw o hen ffrindie yn Wrights yn Llanarthne.

Daeth pawb n么l adre i aros efo ni ac wnaethon ni aros fyny tan orie man y bore.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gonest, swil a darbodus

Beth yw dy hoff lyfr?

Y cynta' wnaeth fy mwrw i yn fy nghalon, 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis. Mae ail ran y llyfr yn fy sobri, ac yn trafod beth all ddigwydd i'r iaith Gymraeg yn y dyfodol. Yn anffodus mae hyn wedi ei wireddu yn ambell i le yn barod.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy ngot law newydd o Toast. Ces i hi'n ddiweddar ac mae'n gr锚t achos pan dwi'n ei gwisgo, achos yr hwd does dim angen ymbarel arnai.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'The Danish Girl'. Fe wnes i ei mwynhau hi - roedd Eddie Redmayne yn dda ynddi ond roedd Alicia Vikander yn hollol wych.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Sarah Lancashire - dyw hi ddim byd tebyg i fi ond dwi'n dwli arni fel actores.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy hi byth yn B'nawn Da i Catherine Cawood (Sarah Lancashire) yn 'Happy Valley'!

Dy hoff albwm?

Gan fy mod yn dwli ar emynau dwin meddwl mai albwm gymanfa fydde hi. Neu efallai concerto i'r clarinet gan Mozart.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Mae'n dibynnu ar y tywydd. Melon d诺r neu prawn cocktail i ddechrau. Cig oen yn brif gwrs, gyda phwdin Efrog os yn bosib, ac mae crymbyl afal yn ffefryn i bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Rwy'n gallu bod yn llawdrwm ar ddrwgweithredwyr, felly liciwn i'r profiad o fod yn 'sgidiau rhywun sydd wedi ei garcharu ar gam. Byddai'n brofiad erchyll mae'n si诺r.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Arfon Haines Davies

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elinor yn stiwdio 'Wedi 3'