Hyfforddiant ar symptomau iechyd meddwl i athrawon

Mae 12 ysgol yng Nghymru wedi'u dewis i gymryd rhan mewn cynllun hyfforddiant i helpu athrawon adnabod arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl ymysg eu cydweithwyr a disgyblion.

Bydd yr ysgolion yn ne-ddwyrain Cymru yn cymryd rhan yn yr arbrawf, sy'n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste.

Mae'r ymchwilwyr wedi datblygu cynllun hyfforddiant o'r enw WISE (Wellbeing in Secondary Education), a bydd hyd at 16 o staff ym mhob ysgol yn derbyn hyfforddiant ar adnabod symptomau iechyd meddwl ac yna'n sefydlu grwp i gefnogi'u cydweithwyr.

Bydd rhai athrawon eraill yn derbyn hyfforddiant pellach i helpu disgyblion.

Yn 么l ymchwil gan Brifysgol Bryste, mae bron i un mewn pump o athrawon yn dioddef o iselder.

'Cefnogaeth emosiynol'

Mewn adroddiad diweddar gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch datgelwyd fod yr achosion o straen oherwydd gwaith bron i ddwywaith yn waeth ymhlith athrawon na gweithwyr eraill.

Dywedodd Dr Rhiannon Evans o Brifysgol Caerdydd, sy'n arwain y gwaith ymchwil yng Nghymru: "Mae tystiolaeth yn awgrymu fod athrawon yn dioddef mwy o salwch meddwl o'i gymharu 芒 phroffesiynau arall.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod disgwyl i staff dysgu roi cefnogaeth emosiynol i fyfyrwyr, ond anaml maen nhw'n cael hyfforddiant digonol i wneud hyn.

"Bwriad hyfforddiant WISE yw newid y ffordd y mae ysgolion yn siarad am iechyd meddwl a lles, wrth ddarparu sgiliau i staff yr ysgol ar yr un pryd."

Bydd yr ymchwilwyr yn gwerthuso'r cynllun gan edrych ar absenoldeb oherwydd salwch ymhlith athrawon, achosion o iselder a pherfformiad disgyblion.