Cynghorwyr Sir Benfro yn cymeradwyo cynllun tai
- Cyhoeddwyd
Mae caniat芒d cynllunio wedi ei roi i ddatblygiad yn Sir Benfro sy'n cynnwys nifer o gartrefi fforddiadwy.
Mae Cymdeithas Tai Sir Benfro am godi 117 o dai ar dir i'r gogledd o Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau.
Fe fydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai, byngalos a fflatiau rhwng un a phedair ystafell.
Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw'n codi llefydd chwarae i blant.
Fe wnaeth swyddogion cynllunio argymell cymeradwyo'r cynlluniau.
Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio hefyd gymeradwyo cais gan gwmni Hillwest i adeiladu 24 o dai newydd yn Hwlffordd.
Roedd y Cyngor Tref wedi gwrthwynebu cynllun oherwydd pryder am broblemau traffig a charthffosiaeth.