大象传媒

Llais y Llywydd: Ritzy Bryan

  • Cyhoeddwyd
ritzy bryan

Rhiannon (Ritzy) Bryan yw prif leisydd a gitarydd y band The Joy Formidable a ffurfiodd yng Ngogledd Cymru yn 2009. Mae nifer o albyms y gr诺p wedi eu recordio yn Sir y Fflint.

Er nad yw ei rhieni yn siarad Cymraeg, fe benderfynon nhw anfon Rhiannon i Ysgol Gynradd Gymraeg Glanrafon ac yna i Ysgol Uwchradd Maes Garmon.

Hi yw llywydd y dydd ar drydydd diwrnod y cystadlu, a bu Cymru Fyw yn ei holi am ei hatgofion o'r mudiad a'r 'Steddfod.

Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?

Fy hoff atgof o'r Urdd yw cyfarfod ar 么l yr ysgol yng Nghanolfan Daniel Owen pan fyddai gweithgareddau dawnsio yno. Roedden nhw'n llawer o hwyl i bobl ifanc, dawnsio'r holl egni i ffwrdd ac yna ar ddiwedd y sesiwn fe fydden ni'n cael diod o oren.

Wnes di erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Do, fe wnes i gystadlu ddwy waith gyda'r gitar clasurol.

Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?

Dwi'n credu fod yr Urdd yn wych i blant ddysgu gweithgareddau newydd, trio pethau gwahanol mewn gr诺p ac mewn awyrgylch cyfeillgar.

P'un yw dy ffefryn a pham - Gwersyll Llangrannog/Glan-llyn/Caerdydd?

Pan oeddwn i'n blentyn roeddwn i'n fwyaf cyffrous pan oeddwn i'n mynd i Langrannog, oherwydd y traeth a'r ceffylau yn fwy na dim.

Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?

Rhywbeth cerddorol - cyfansoddi c芒n neu ddarn o gerddoriaeth gyfoes efallai. Byddai hynny'n c诺l i'w annog.

Sut fyddet ti'n disgrifio ardal y Fflint i bobl sydd erioed wedi bod yno o'r blaen?

Mae'n sir brydferth gyda bryniau Clwyd yn gefndir. Mae gennym ni lwybrau cerdded gwych, llawer o hanes ac mae trefi marchnad fel yr Wyddgrug a Threffynnon yn ganolfannau gr锚t i'w mwynhau.

Fe dyfais i fyny yn Rhosesmor a dwi'n ymweld yn aml pan nad ydw i'n teithio. Dw i wrth fy modd yn cerdded ac yn hoff o natur.