大象传媒

Llais y Llywydd: Rhydian Dafydd

  • Cyhoeddwyd
Rhydian DafyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Rhydian Dafydd ei eni yn Llan Ffestiniog yn 1979 cyn symud i fyw i Fynydd Isa ger Yr Wyddgrug pan oedd yn un oed.

Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Glanrafon ac yna i Ysgol Uwchradd Maes Garmon.

Wedi blynyddoedd o brofiad mewn bandiau llai, cafodd The Joy Formidable ei sefydlu. Maent yn fand llwyddiannus iawn erbyn hyn sydd wedi teithio ar draws y byd - mewn gwledydd megis America, Chile, Awstralia a Japan.

Rhydian yw llywydd y dydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ar ail ddiwrnod y cystadlu. Bu Cymru Fyw yn ei holi am ei atgofion am y mudiad a'r 'Steddfod.

Wnes di erioed cymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Er mod i yn cystadlu efo Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon mewn cystadlaethau fel dram芒u a sioeau cerdd, fy mhrif ddiddordeb i oedd chwaraeon, a gymnasteg yn benodol.

Mi wnes i gystadlu fel unigolyn a th卯m yn y 'Steddfod a dwi'n cofio ennill fel unigolyn a chael fy nghyfweld ar raglen S4C yn Eisteddfod Rhuthun.

Bues i yn cystadlu yn y cystadlaethau celf hefyd a chael tipyn o lwyddiant.

Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?

Mae o'n rhoi cyfle i bawb - beth bynnag fo'ch diddordebau a'ch cefndir.

Mae hefyd yn datblygu personoliaeth a magu hyder plant a phobl ifanc ac mae'n bosib mwynhau hyd yn oed os nad ydych yn hoffi cystadlu ar lwyfan.

Mae Gwersylloedd yr Urdd yn wych hefyd ac rwy'n teimlo fy mod i wedi cael profiadau da o fod yn aelod o'r Urdd - mae wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fel perfformiwr, er nad oeddwn yn cystadlu llawer ar ben fy hun yn yr eisteddfodau.

P'un yw dy ffefryn a pham - Gwersyll Llangrannog/Glan-llyn/Caerdydd?

Fe fwynheais Glan-llyn a Llangrannog fel ei gilydd. Maen nhw'n rhoi cyfle gwych i blant a phobl ifanc gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol na fydden nhw'n cael cyfle fel arall.

Beth yw dy r么l yn Eisteddfod Sir y Fflint?

Llywydd y dydd ar ddydd Iau yr Eisteddfod, ond oherwydd galwadau'r band fydda'i ddim yn gallu mynychu'r Eisteddfod gwaetha'r modd, gan y bydd yn rhaid i mi ddychwelyd i America.

Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint ac yn diolch am y gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd.

Sut fyddet ti'n disgrifio ardal y Fflint i bobl sydd erioed wedi bod yno o'r blaen?

Mae'n ardal amrywiol a chroesawgar - rhai mannau tawel 芒 harddwch naturiol a mannau eraill mwy prysur a threfol; rhai mannau Cymreig, ac eraill llai Cymreig - ond croeso i bawb.