大象传媒

Buddsoddiad i wella sgiliau a chyfleoedd gyrfa

  • Cyhoeddwyd
sgiliau

Mae Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth 拢45m gyda chymorth yr UE i wella sgiliau a chyfleoedd gyrfa.

Yn 么l Mark Drakeford AC, mae 拢29m o arian Ewropeaidd wedi ei sicrhau ar gyfer nifer o fentrau, gan gynnwys cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o droi cefn ar fyd addysg neu hyfforddiant, cynllun dysgu yn y gweithle ar gyfer gweithwyr mewn cwmn茂au a hyfforddiant arweinyddiaeth i berchnogion a rheolwyr busnes.

Daw'r cyhoeddiad ddydd Mercher wedi i fwy 'na 拢145m o arian Ewropeaidd eisoes gael ei fuddsoddi i hybu sgiliau pobl Cymru ers 2015, gan gynnwys cyllid ar gyfer prentisiaethau, hyfforddiant yn y gweithle a sgiliau arwain.

Dywedodd Mr Drakeford: "Pobl yw'r ased fwyaf sydd gennym ni, ac mae buddsoddi cyllid Ewropeaidd gwerthfawr er mwyn i bobl Cymru gael y sgiliau priodol i gyflawni'u potensial yn uchelgais bwysig i Lywodraeth Cymru. Fel Llywodraeth sydd o blaid Ewrop, dyma enghraifft gadarnhaol arall o fanteision aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd."

"Rhwng 2014 a 2020 bydd Cymru'n elwa ar tua 拢800m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i helpu pobl i ennill sgiliau a chyfleoedd am swyddi, gyda 拢1bn i helpu busnesau i dyfu, torri tir newydd drwy ymchwil ac arloesi, a datblygu seilwaith pwysig."