大象传媒

Ateb y Galw: Heather Jones

  • Cyhoeddwyd
bbc

Y gantores Heather Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Arfon Haines Davies yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Crwydro yn yr ardd ffrynt gyda fy ffrind Susie - ma' hi dal yn un o'n ffrindiau agosa' i. Roedd Mam ni'n dwy yn siarad efo'i gilydd ar ben y llwybr. Roeddwn i a Susie yn tynnu topiau blodau i ffwrdd a gwneud llanast - sbwylio'r ardd go iawn! Rwy'n credu oedden ni'n dair oed ar y pryd.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Roedd gen i boster o'r actor David Janssen oedd yn 'The Fugitive' ar fy wal pan o'n i'n iau. Roedd e mor olygus.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roeddwn i gyda fy ffrind Susie eto. Pan oedden ni tua wyth oed gwnaethon ni 'sgwennu ar hyd car fy nhad - dwi'n meddwl mai syniad Susie oedd o! Ges i chwip d卯n iawn gen Dad, a fy mrodyr yn y 'stafell drws nesa' yn chwerthin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather yn ennill C芒n i Gymru yn 1972 gyda 'Pan Ddaw'r Dydd'

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe i ddweud y gwir. Mae fy ffrind yn wael iawn ar hyn o bryd ac mewn coma - dwi'n gwedd茂o drosto fe.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na dwi'n berffaith... ond efallai yn prynu gormod o ddillad! Dwi wrth fy modd yn prynu dillad o'r 60au. Dwi'n dipyn o 'hoarder' ac yn cadw dillad yn rhy hir a dwi'n cael row gan y teulu am wneud!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Os oes rhaid i mi ddewis un lle, Aberaeron. Rwy'n hoff iawn o'r m么r, mae'r bobl yno'n gr锚t ac mae siopau hyfryd yno hefyd. Mae gan Aberaeron le arbennig yn fy nghalon achos mai o'r dref yr oedd fy nhad-cu a'i deulu i gyd yn dod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Canu fel Nia Ben Aur yn Eisteddfod Llanelli ddwy flynedd yn 么l. Roedd cyngerdd roc i ddechrau a Nia Ben Aur yn dod ar 么l yr egwyl, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan. Roedd e'n wych canu gyda Cleif Harpwood a Dewi Pws unwaith eto.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Bach, blond, ac yn 'boenwr' (dwi'n poeni am bopeth!)

Beth yw dy hoff lyfr?

'Lord of The Flies' gan William Golding. Roeddwn i'n dwli ar y llyfr yma pan o'n i'n yr ysgol ac wnes i fwynhau'r ffilm hefyd. Dwi'n cofio'r geiriau i'r g芒n roedd c么r y bechgyn yn ei ganu ynddo hefyd.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

B诺ts. Dwi ddim yn hoff o sgidiau - fflip fflops i'r haf, a b诺ts weddill y flwyddyn dwi'n credu sydd orau.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Shawshank Redemption' - dwi'n dwli ar y ffilm. Si诺r mod i 'di gweld e o leia' 10 gwaith.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Kylie Minogue. Ma' hi'n fach ac yn blond, fel fi, ac mae ganddi gysylltiadau Cymreig cryf gan bod ei mam o Faesteg. Byddai rhaid iddi ddysgu fy nghaneuon Cymraeg i hefyd!

Dy hoff albwm?

'Blue' gan Joni Mitchell. Mae'r caneuon ar yr albwm yma'n wych, a dwi wedi dysgu i'w chwarae ar y git芒r hefyd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin ydi'n ffefryn i, a dwi wrth fy modd 'da pavlova mefus gyda hufen i芒.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Dwi wrth fy modd yn teithio felly byswn i'n hoffi bod yn aderyn. Gallwn fynd dramor heb orfod cael pasbort na thalu am betrol.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?

Gwyneth Glyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather yn perfformio sesiwn ar gyfer rhaglen 'Y Sesiwn Fach' ar Radio Cymru