Cynnal Eisteddfod yr Urdd 2019 ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi y bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd yn 2019.
Bydd y mudiad yn ymweld 芒'r lleoliad flwyddyn ar 么l i'r Eisteddfod Genedlaethol wneud yr un peth.
Y ddau dro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yn y brifddinas oedd yn 2005 a 2009.
Bydd yr 诺yl unwaith eto'n defnyddio cyfleusterau Canolfan y Mileniwm yn ogystal 芒 gwersyll yr Urdd yno.
'Unwaith yn oes pob plentyn'
Yn sgwrsio ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Iau dywedodd Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Si么n bod gan y mudiad yr hawl i gynnal Eisteddfod yn y bae unwaith pob pedair blynedd fel rhan o'u cytundeb gyda Chanolfan y Mileniwm, ond eu bod wedi penderfynu gohirio mynd 'n么l yno nes 2019 i barhau i fynd a'r 诺yl ar daith.
"Yr hyn 'da ni wedi ei benderfynu ydi ein bod ni'n mynd i'r bae o leiaf unwaith yn oes pob plentyn fel eu bod nhw'n cael y profiad i geisio cystadlu neu pherfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm," meddai.
Wrth ddechrau ar y gwaith o gynllunio'r 诺yl yn 2019, doedden nhw ddim yn ymwybodol bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwriadu ymweld 芒'r un safle flwyddyn ynghynt, meddai.
Ychwanegodd, fel digwyddodd yn 2015 a 2009, ni fydd pwyllgor gwaith yn cael ei sefydlu, ac yn hytrach, bydd y mudiad yn cydweithio gydag ysgolion Caerdydd a'r Fro.