大象传媒

Cariad at ffermio

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermio wedi cael ei weld fel asgwrn cefn y Gymru wledig ers canrifoedd ond beth yw'r dyfodol i bobl ifanc sydd eisiau amaethu? Beth yw'r anawsterau sy'n eu wynebu?

Mae Cymru Fyw wedi siarad 芒 chwpl ifanc o Bowys sy'n ysu i ddechrau eu bywyd priodasol fel ffermwyr ond sydd wedi troi at Facebook ar 么l methu dod o hyd i fferm i'w rhentu.

Maen nhw'n gobeithio y gall rhywun eu helpu i fwrw gwreiddiau ar fferm fel y gwnaeth eu rhieni o'u blaenau.

Ar 么l cyfarfod mewn dawns ysgubor naw mlynedd yn 么l, priododd Carys ac Iwan Jones o'r Drenewydd ar Nos Galan eleni ac mae'n nhw wedi bod yn chwilio am fferm i'w rhentu ers tair blynedd.

Er dod yn agos at gael tenantiaeth ar fferm gyngor, a boddi wrth ymyl y lan, mae'r cwpl yn dechrau anobeithio.

"De ni di trio am ddwy fferm cyngor ac wedi mynd drwy'r broses, gwneud cynllun busnes, gweithio allan y cashflows am dair blynedd a bod o flaen panel o gynghorwyr a dod yn ail, ddwywaith," meddai Carys, 24, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion ac Aelwyd Penllys.

"Mae wedi bod yn broses reit anodd ac yn brofiad torcalonus rili."

A dyw'r cyfle i rentu fferm ddim yn codi'n aml meddai Iwan, sy'n 31 mlwydd oed: "Does dim byd wedi dod ers amser hir r诺an so oedden ni'n meddwl, reit, gawn ni roi

Gwireddu breuddwyd

"Pan ddaru mab fferm gwrdd a merch fferm mewn dawns ysgubor 9 mlynedd yn 么l, pwy wyddai be oedd ar y gorwel? Dyma ni, yn fwy na pharod i ddechre bywyd priodasol yn y ffordd rydem ni wastad wedi bod eisiau.

"Rydem yn edrych am fferm o unrhyw faint (gyda th欧) i'w rentu. Rydyn ni'n hapus i fynd unrhywle yng Nghanolbarth Cymru - o fewn awr o'r Drenewydd os yn bosib fel y galla i drafeilio i fy ngwaith fel darlithydd Celf a Dylunio a gallith Iwan barhau yn ei waith fel contractwr amaethyddol.

"Os allith unrhywun rannu hwn fel y gallwn fod cam yn agosach at ein breuddwyd, byddem yn ddiolchgar dros ben."

'Amhosib prynu fferm'

Wrth i ffermydd fynd yn fwy mae'r ddelwedd draddodiadol o ffermydd teuluol yn cael eu hetifeddu o genhedlaeth i genhedlaeth yn diflannu meddai Iwan a rhentu yw'r unig opswin i'r rhan fwyaf o bobl ifanc.

Hyd yn oed wedyn mae'r cyfleoedd yn brin.

Ffynhonnell y llun, Carys Mair Jones

"Os tishe rhentu tir, mae digon o gyfle i wneud hynny," meddai Carys, "ond os ti ishe rhantu fferm gyda ty hefyd, mae'n amhosib ac mae prynu fferm ... wel ,ti angen o leia miliwn o bunnau cyn iti ddechre."

Mae Iwan yn un o dri brawd sydd wedi eu magu ar fferm gyngor ei rieni yng Nghaersws, a fo ydi'r unig un sydd eisiau ffermio.

"Mae mam a dad ar fferm cyngor yn barod a 'deni wedi gofyn gawn ni gario hwnnw ymlaen," meddai.

"Ond 'di o ddim yn gweithio felne - mae rhaid iti fynd drwy'r un broses o gael interview ac yn y blaen, a hefyd dio ddim digon o faint i fi a dad."

Fferm 110 acer yw fferm deuluol Carys ond mae ei thad yn dal yn ifanc a'i brawd hynaf eisoes yn gweithio ar y fferm - does dim digon o waith iddi hi ac Iwan yno hefyd.

Ffermydd bach yn diflannu

Y prif rwystr iddyn nhw ydy'r ffaith fod ffermydd bach yn cael eu colli bellach a'r byd amaeth yn ffafrio ffermydd mwy a mwy.

Ffynhonnell y llun, Iwan Jones

"Mae lot o ffermydd yn cael eu gwerthu ffwrdd neu mewn lots, falle bod nhw'n gwerthu darn o'r tir a falle bod pobl yn dal i aros a byw yn y t欧 fferm so be sy'n digwydd ydy fod pobl sy'n ffermio yn barod yn ehangu eu fferm nhw ac yn ei gwneud yn fwy.

"Felly be sydd yn y diwedd ydy mwy o ffermydd mawr yn hytrach na mwy o ffermydd llai o faint ... a hefyd dydi ddim mor hawdd gwneud bywoliaeth i be oedd o - dydi amaethyddiaeth ddim ar ei amser cryfaf ar hyn o bryd."

Ers talwm roedd mwy nag un cenhedlaeth yn gweithio ar fferm a digon o fywoliaeth iddyn nhw ar fferm fach ond dydi hynny ddim yn wir bellach meddai Carys.

Cofio cau y cyrtens!

Er byw yn y Drenewydd ei hun ers tair blynedd, ateb dros dro i ddechrau, maen nhw'n dal i ysu am fod n么l yn eu cynefin yn y wlad.

"Fel mae'r amser yn mynd ymlaen rwan mae'r ddau ohonon ni methu weitsiad i fod n么l yng nghefn gwlad," meddai Carys. "Jyst y pethe syml - gallu mynd am dro a mynd allan drwy'r drws ffrynt. Yn y dre mae na bobl o gwmpas, mae pawb yn gallu gweld be ti'n neud - mae jyst yn deimlad anarferol i be yden ni wedi arfer efo fo.

"Hyd yn oed pethe syml fel gwneud yn si诺r dy fod yn cau'r cyrtens!"

Hyd yma mae dros 250 o bobl wedi rhannu eu neges Facebook ond does neb wedi cysylltu eto.

Am y tro felly bydd Iwan yn parhau i deithio i'w waith fel contractiwr a Carys yn dal i ddarlithio a gweithio fel ffotograffydd ar ei liwt ei hun, ond fe fyddan nhw'n dal i freuddwydio am sefydlu aelwyd ar fferm yn y wlad:

"Ryden ni'n dal yn croesi bysedd y bydd 'na rywun yn dod i wybod ein stori ni ac yn cofio amdanon ni yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Carys Mair Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun a dynnodd Carys ar fuarth ei fferm gartref