大象传媒

Canser: 'Angen gosod targedau uchelgeisiol yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Triniaeth canserFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Ma elusen yn galw am osod targedau newydd uchelgeisiol yng Nghymru ar unwaith er mwyn delio 芒 nifer y bobl sy'n cael diagnosis canser.

Mewn adroddiad newydd sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau, mae Cancer Research UK yn dweud bod gormod o bobl yng Nghymru yn gorfod aros yn rhy hir cyn clywed a oes canser arnyn nhw.

Mae tua 19,000 o bobl yn cael diagnosis canser bob blwyddyn yng Nghymru, sy'n gynnydd o 14% yn y deng mlynedd hyd at 2014.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n ystyried cynnwys yr adroddiad.

'Gwasanaethau ar y dibyn'

Dywedodd Sir Harpal Kumar, prif weithredwr Cancer Research UK: "Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun pryderus o'r sefyllfa gan arbenigwyr canser, sy'n awgrymu fod gwasanaethau canser y GIG yng Nghymru ar y dibyn.

"Er bod yna welliannau nodedig wedi bod mewn gofal canser, oherwydd bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi, rydym ymhell o'r fan ble y dylen ni fod.

"Bydd un o bob dau o bobl yn cael canser ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn y blynyddoedd i ddod, byddwn yn rhoi diagnosis i fyw o bobl, yn trin mwy o bobl ac yn helpu mwy o bobl i wella o ganser. Mae gennyn ni well dealltwriaeth nag erioed am sut i atal, rhoi diagnosis a thrin y clefyd, a sut i wella profiad cleifion ac ansawdd eu bywydau.

"Mae gennyn ni'r cyfle i achub miloedd o fywydau rhag canser bob blwyddyn. Dyma'r amser i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r strategaeth canser newydd i amlinellu uchelgeisiau a blaenoriaethau, gyda chefnogaeth buddsoddiad ac arweiniad."